English icon English
welsh flag-3

Cynyddu’r dirwyon am aildroseddu yn erbyn rheolau’r cyfyngiadau yng Nghymru

Fines increased for repeat coronavirus lockdown breaches in Wales

Bydd y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu o £120 i £1,920, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw.

Mae’r cynnydd yn y dirwyon yn cael ei gyflwyno cyn penwythnos gŵyl y banc ac mae’n dilyn cais gan bedwar heddlu Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gynyddu’r cosbau i helpu i gymell pobl i beidio â thorri’r rheoliadau aros gartref, dro ar ôl tro.

Mae tystiolaeth gan y pedwar heddlu yn dangos bod lleiafrif bach o bobl yn torri’r rheoliadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws, yn enwedig drwy deithio i lecynnau hardd adnabyddus ledled Cymru, er eu bod wedi bod ynghau ers diwedd mis Mawrth.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau i’r strwythur dirwyon, a ddaw i rym ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r prif gwnstabliaid a’n Comisiynwyr Heddlu a Throseddu am eu holl waith i gadw Cymru’n ddiogel drwy gydol y pandemig coronafeirws.

“Mae’r heddlu’n dilyn pedwar cam wrth roi’r rheoliadau ar waith – maen nhw’n cyfathrebu â phobl, yn egluro beth mae angen iddyn nhw ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond pan nad yw pobl yn ymateb, maen nhw wedi defnyddio eu pwerau i orfodi’r rheoliadau.

“Dirwyon yw’r dewis olaf wrth orfodi’r rheoliadau hyn, rheoliadau sy’n ein cadw ni i gyd yn ddiogel.

“Mae’r dystiolaeth gan y prif gwnstabliaid a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn dangos bod angen strwythur dirwyon cryfach arnon ni i rwystro’r lleiafrif bach hwnnw o bobl sy’n methu dro ar ôl tro â chadw at y rheolau.”

Mae tystiolaeth gan y pedwar heddlu a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn dangos bod dros 1,300 o hysbysiadau cosb benodedig wedi’u rhoi ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud ddiwedd mis Mawrth.

Mae’r strwythur dirwyon presennol yn gosod dirwy o £60 am y drosedd gyntaf gan godi i £120 am yr ail drosedd a phob trosedd ddilynol. Yn y strwythur newydd, bydd y dirwyon yn dyblu am bob trosedd – gan godi o £60 i £120, ac yn y pen draw i £1,920 am y chweched drosedd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Wrth i benwythnos gŵyl y banc ddynesu, rydym yn parhau i ofyn i bobl aros gartref i’w diogelu eu hunain a’u hanwyliaid rhag y coronafeirws. Os ydych chi’n ymarfer corff – cofiwch aros yn ddiogel ac aros yn lleol.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth cyson i leihau lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru – drwy gadw at y rheolau, rydym ni i gyd yn helpu i ddiogelu ein gilydd a’n Gwasanaeth Iechyd, ac rydym ni yn achub bywydau.

“Bydd y newidiadau hyn yn anfon neges bendant i’r lleiafrif bach o bobl sy’n mynnu anwybyddu’r rheolau a thanseilio ymdrechion pawb arall sy’n gwneud y peth cywir.”

Bydd rheoliadau newydd i gynyddu’r dirwyon yn cael eu gosod gerbron y Senedd ddydd Iau ac yn dod i rym ddydd Gwener.