English icon English
Press release header - red with logo-2

Cytundeb cyllideb wedi'i gyrraedd

Budget agreement reached

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyrraedd cytundeb a fydd yn caniatáu i’r gyllideb ar gyfer 2026-27 gael ei phasio ac yn sicrhau bron i £300m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Bydd y cytundeb yn osgoi’r posibilrwydd na chaiff unrhyw gyllideb ei phasio o gwbl a’r canlyniadau a fyddai’n deillio o hynny.

Mae tri elfen i’r cytundeb:

  • Cyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn 2026-27 – £112.8m ychwanegol, sy’n darparu cynnydd cyffredinol o 4.5% i setliad llywodraeth leol. Bydd pob cyngor yn derbyn cynnydd dros 4%.
  • Cyllid ychwanegol i’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol – £180m ychwanegol, sydd, ynghyd â’r cyllid yn y Gyllideb Ddrafft, yn cyfateb i gynnydd o 3.6% yn 2026-27.
  • Bydd £120m o gyllid cyfalaf ar gael i’r llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd i’w ddyrannu.

Bydd y cytundeb yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb Derfynol – ynghyd â dyraniadau eraill gan Lywodraeth Cymru, nad ydynt yn rhan o’r cytundeb – a gyhoeddir ar 20 Ionawr 2026.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

“Mae’r cytundeb hwn yn dangos cryfder pleidiau’r Senedd yn gweithio gyda’i gilydd ar flaenoriaethau a rennir i gyflawni dros Gymru. Trwy’r cytundeb hwn rydym wedi sicrhau pasio’r gyllideb ac wedi atal toriadau posibl trychinebus i gyllid y flwyddyn nesaf.

“Mae’r cytundeb hwn yn rhyddhau £300m ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer cynghorau Cymru a’r GIG, ar ben mwy na £27bn a sicrhawyd drwy’r Gyllideb Ddrafft.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: “Ein nod wrth drafod gyda Llywodraeth Cymru oedd gofalu am wasanaethau cyhoeddus, diogelu swyddi a chadw biliau treth cyngor mor isel â phosibl.

“Drwy sicrhau £300m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, mae’n osgoi’r posibilrwydd o ymyl clogwyn i wariant cyhoeddus yng Nghymru ac, ym mis Mai 2026, yn rhoi’r Llywodraeth nesaf ar sail gadarnach nag y byddai fel arall.

“Er fy mod yn cydnabod y bydd cynghorau a’r GIG yn parhau i wynebu heriau, mae hyn yn cynrychioli cynnydd sylweddol mewn cyllid o gymharu â’r gyllideb ddrafft.”

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i’r golygyddion:

  • Ar 20 Ionawr 2026 caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi.
  • Ar 27 Ionawr 2026 cynhelir y ddadl a’r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol.