Cytundeb IPO i yrru arloesedd yn ei flaen
IPO agreement to drive innovation forward
Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb gyda'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) i gefnogi busnesau ac i sbarduno mwy o fuddsoddiad mewn creadigrwydd ac arloesedd.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) yn cydnabod pwysigrwydd rheoli asedau ac eiddo deallusol (IP) yn effeithiol ar gyfer ysgogi twf yr economi.
Mae'n gosod y sylfeini i'r ddau sefydliad weithio'n agosach â'i gilydd i roi cymorth ac arweiniad gydag IP i fusnesau arloesol yng Nghymru. Daw hyn â manteision cymdeithasol ac economaidd i bobl ledled Cymru.
Mae'r cytundeb yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach yn unol â'i strategaeth Cymru'n Arloesi.
Mae'r busnes o Bowys, Stashed Products – sy'n allforio storfeydd clyfar ar gyfer beiciau i fwy na 45 o wledydd – yn un cwmni sydd wedi cael help Llywodraeth Cymru i gryfhau ei fesurau ar gyfer amddiffyn ei IP a manteisio ar gyfleoedd masnachol newydd.
Derbyniodd y cwmni arian Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) gan Lywodraeth Cymru, ac Archwiliad o'i IP trwy IPO gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Elliot Tanner, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd Stashed Products sydd newydd ennill Gwobr y Brenin ar gyfer Menter Mewn Arloesi yn dilyn cael cefnogaeth Busnes Cymru:
"Mae cymorth fel SFIS yn caniatáu ichi gymryd risgiau. I fusnes bach, mae hynny'n beth mawr. Roedd yn golygu ein bod yn gallu llogi, datblygu a mireinio - a chael cynnyrch newydd yn barod i'r farchnad a'u diogelu.
"Rhoddodd yr archwiliad gynllun gweithredu clir i ni. Dangosodd i ni ble roedd ein gwendidau a'n helpu i feddwl yn fwy strategol ynghylch sut i ddefnyddio ein IP – ar gyfer mwy na dim ond i werthu cynnyrch."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hon yn datblygu'r berthynas agos rhwng Llywodraeth Cymru ac IPO ac yn fan cychwyn ar gyfer partneriaeth gydweithredol hirdymor i gynyddu effeithiau arloesi.
Gall deall Eiddo Deallusol a defnyddio'r wybodaeth honno i wneud penderfyniadau mwy gwybodus fod yn hanfodol i fusnesau bach a chanolig, busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu.
Rydym am i grewyr, arloeswyr ac entrepreneuriaid heddiw ac yfory ddysgu sut i ddefnyddio eiddo deallusol yn well i ysgogi eu busnesau i dyfu a helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru."
Dywedodd Cyfarwyddwr Gorfodi, Busnes a Rhyngwladol yr IPO, Natasha Chick:
"Mae deall eiddo deallusol a defnyddio'r wybodaeth honno i wneud penderfyniadau gwybodus yn hanfodol bwysig i bob busnes - yn enwedig busnesau bach a chanolig, busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu.
Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agosach gyda Llywodraeth Cymru i helpu busnesau arloesol yng Nghymru i ddeall a rheoli eu heiddo deallusol yn well. Bydd hyn yn eu helpu i wireddu eu potensial ac yn rhoi'r modd iddynt allu tyfu a llwyddo. Daw hynny â manteision i ni i gyd."