English icon English

Cytuno Cyllideb Llywodraeth Cymru

Welsh Government Budget agreed

Datganiad gan y Prif Weinidog Eluned Morgan AS

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Mae'r gyllideb hon yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf. Fe ddwedon ni y bydden ni’n rhoi mwy o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac fe wnaethon ni hynny.

“Mae'r bleidlais heddiw yn sicrhau £27.5bn ar gyfer pobl, cymunedau a busnesau ar draws Cymru – sef £1.2bn yn fwy nag yn y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n rhoi sefydlogrwydd ar gyfer gwasanaethau allweddol ac mae wedi’i seilio ar ymrwymiad y Llywodraeth hon i degwch a chyflawni."