Datblygu y gwaith o asesu diogelwch tomeni glo wrth lansio llinell gymorth
Work to assess safety of coal tips progresses as helpline launched
Bydd cronfa ddata newydd o domeni glo yng Nghymru a llinell rhadffôn ar gael ar ôl y difrod a achosir gan lifogydd ym mis Chwefror.
Cynhaliwyd y mesurau newydd fel rhan o waith parhaol i asesu diogelrwydd pob tomen, a oruchwyliwyd gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dilyn y stormydd Ciara a Dennis.
Bydd yr adolygiad, sy’n cael ei gynnal gan yr Awdurdod Glo, yn cyfuno'r data presennol ynglŷn â domeni glo yng Nghymru, gan ddarparu un gofrestr a safoni cyfraddau diogelwch tomeni glo o dan system newydd.
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi darparu eu cofnodion, manylion eu trefn archwilio a manylion eu prosesau rheoli risg. Cafodd yr wybodaeth hon ei hasesu gan yr Awdurdod Glo ac mae canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer dull gweithredu cyson.
Mae’r Awdurdod Glo wedi creu cronfa ddata canolog o domeni rwbel ledled maes glo De Cymru gan ddefnyddio cyfuniad o ddata GIS, sganio laser, ffotograffiaeth o’r awyr a mapiau hanesyddol. Bydd y gronfa ddata yn cael ei gyhoeddi pan fydd y gwaith wedi’i chwblhau.
Bydd rhif rhadffôn (0800 021 9230) ar gael i aelodau’r cyhoedd i nodi unrhyw bryderon ynghylch tomeni glo yn eu cymuned leol.
Yn ogystal â bod ar gael i helpu trigolion i nodi unrhyw bryderon, mae’r llinell gymorth rhadffôn hefyd ar gael i unrhyw un un ag sy’n sylwi ar broblemau gyda draeniad mewn domeni.
Meddai Mark Drakeford y Prif Weinidog: “Yn y cyfarfod gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru fis diwethaf cytunwyd y gellid gwneud rhagor o waith i gydlynu rhwng pob corff sy’n archwilio tomeni glo - gan gynnwys yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau lleol.”
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: “Gwnaethom ymrwymiad i wella’r dull o reoli tomeni glo Cymru a’r wybodaeth sydd ar gael i’r bobl sy’n byw gerllaw iddynt.
“Mae’r gwaith hanfodol hwn wedi datblygu’n dda. Bydd y llinell gymorth newydd yn golygu y gall unrhyw un sydd â phryderon ynghylch diogelwch y tomeni glo yn eu cymuned eu nodi a chael yr wybodaeth y maent ei hangen yn gyflym ac am ddim.”
Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol wedi edrych ar eu trefniadau cynllunio argyfwng ar gyfer tirlithriadau ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo yn cynllunio unrhyw waith adfer angenrheidiol.
Yn seiliedig ar yr ymarfer hwn, mae’r Awdurdod Glo wedi nodi oddeutu 400 o safleoedd rwbel ar dir preifat a fu’n cael eu harchwilio.
Mae adolygiad o’r ddeddfwriaeth wedi’i gynnal hefyd ac mae opsiynau ar gyfer deddfwriaeth newydd yn cael eu hystyried gallai sefydlu trefn reoli fwy cadarn fyddai yn rhoi mwy o sicrwydd i’r cyhoedd ynghylch y risg o domeni rwbel.
Diwedd