Datblygu'r Diwydiant Pren yng Nghymru
Making wood work for Wales
Mae Cymru yn lansio ei Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren gyntaf heddiw i fanteisio ar y galw cynyddol byd-eang am bren, y disgwylir iddo fod bedair gwaith yn fwy erbyn 2050.
Bydd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies yn lansio 'Gwneud i Bren Weithio i Gymru' yn y Sioe Frenhinol [ddydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025].
Mae'r strategaeth newydd yn golygu blynyddoedd o gydweithio â sector pren Cymru ac mae'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.
Ei nod yw cynyddu nifer a gwerth y pren a dyfir a chynhyrchion pren a gynhyrchir ledled Cymru. Bydd mwy o ddefnydd o bren mewn adeiladu yn sicrhau dyfodol y diwydiant coedwigaeth, gan gefnogi buddsoddiad newydd, swyddi a gwell canlyniadau carbon.
Mae recriwtio gweithwyr medrus yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i'r diwydiant ehangu. Bydd y strategaeth yn gwella cyfathrebu â phobl ifanc am yrfaoedd coedwigaeth yng Nghymru, gan weithio gyda Gyrfa Cymru a sefydliadau fel y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol.
Meddai Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
"Rydw i mor falch o fod yn lansio Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren gyntaf Cymru heddiw. Rwy'n awyddus i'n coedwigoedd gael eu defnyddio mewn ffordd weithredol, gynaliadwy ac amrywiol, gan ddarparu manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru am ganrifoedd lawer i ddod – a bydd y strategaeth hon yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau hynny.
Wrth i'r byd weithio tuag at gyflawni sero net, gall pren a ffeibr pren wneud cyfraniad uniongyrchol a phwysig at y broses o newid y deunyddiau rydym yn eu defnyddio – newid sydd ei angen er mwyn datgarboneiddio.
Ar hyn o bryd mae Woodknowledge Wales yn cyflawni'r prosiect Cartrefi o Bren Lleol 2 a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio pren mewn tai cymdeithasol, gan helpu i ddatgarboneiddio adeiladu, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol a chreu lleoedd mwy cynaliadwy i fyw.
Dywedodd Gary Newman, y Prif Weithredwr:
"Mae pren yn ganolog i adeiladu economi gylchol carbon isel - gan gefnogi datgarboneiddio, bywoliaethau gwledig, a datblygu cynaliadwy. Tai yw un o'r achosion defnydd cliriaf ar gyfer cynyddu'r defnydd o bren a dyfir yng Nghymru."