English icon English

Datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd yn bwrw ati gyda phrosiectau cyntaf

Publicly owned renewable energy developer powers ahead with first projects

Heddiw, mae datblygwr ynni adnewyddadwy Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd, Trydan Gwyrdd Cymru, wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer tair fferm wynt newydd sydd â'r potensial i gynhyrchu hyd at 400 MW o drydan glân – digon i bweru anghenion trydan cyfartalog blynyddol 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Mae hynny tua chwarter y cartrefi yng Nghymru.

Yn y cyhoeddiad prosiect cyntaf ers lansio Trydan yn 2024, bydd y cynlluniau a amlinellwyd heddiw yn helpu i ddiwallu'r angen cynyddol am ynni glân yng Nghymru. Rhagwelir y bydd y galw am drydan bron yn treblu erbyn 2050.

Mae'n gam sylweddol tuag at uchelgais Trydan i ddatblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040.

Y tri safle arfaethedig cyntaf yw:

  • Fferm Wynt Clocaenog Dau, Sir Ddinbych/Conwy (hyd at 132 MW)
  • Fferm Wynt Glyn Cothi, Sir Gaerfyrddin (hyd at 162 MW)
  • Fferm Wynt Carreg Wen, Rhondda Cynon Taf (hyd at 108 MW)

Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu er budd Cymru yn unig, gyda'r holl elw a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y ffermydd gwynt yn cael eu datblygu ar ystad goetir Llywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu 126,000 hectar - 6% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru - ac sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd sydd â'r potensial gorau yn y wlad ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae torri allyriadau carbon Cymru yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at Gymru'n cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i fodloni 70% o'r hyn a ddefnyddir yng Nghymru erbyn 2030, gan godi i 100% erbyn 2035.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae'r cynigion hyn yn dangos ein hymrwymiad i harneisio adnoddau naturiol niferus Cymru i gynhyrchu ynni glân gan sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo'n lleol.

“Drwy ddatblygu'r prosiectau hyn ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud y defnydd gorau o'n tir cyhoeddus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chreu cyfleoedd economaidd cynaliadwy.”

Amcangyfrifir y bydd y datblygiadau yn creu cannoedd o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a'r cam gweithredu, gyda Trydan wedi ymrwymo i gynnwys cwmnïau o Gymru drwy gydol y broses.

Mae rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Prif Weithredwr Trydan Gwyrdd Cymru, Richard Evans:

"Gyda Trydan yn gyrru datblygiad, a chyda'r elw o'r buddsoddiad hwn yn cael ei gadw yng Nghymru, mae gennym gyfle unigryw i fanteisio ar y prosiectau a'r buddion lluosog y maent yn eu cynnig.

"Yn y rhannau hynny o Gymru sy'n addas ar gyfer gosodiadau seilwaith, a ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid cyflenwi, byddwn yn creu ac yn cefnogi swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol o safon yn y sector ynni adnewyddadwy a'r cadwyni cyflenwi, ac yn cyfrannu at fentrau sgiliau. Bydd cymunedau'n cymryd rhan a bydd cyllid yn cefnogi blaenoriaethau lleol."

“Fel datblygwr sy'n gweithredu dros Gymru gyfan, gallwn ymrwymo i raglenni strategol ledled y wlad, megis rheoli ac adfer cynefinoedd, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i ddiffinio gwelliannau uchelgeisiol, hirdymor.”

Nodiadau i olygyddion

Elsie Grace Head of Sustainable Commercial Development at Natural Resources Wales, added:

”We are excited to be working with Trydan Gwyrdd Cymru to help deliver Welsh Government Energy targets. Natural Resources Wales manage the Welsh Government’s Woodland Estate, much of which is located on upland hills and plateau, which potentially make excellent sites for wind farm development.

“Our commercial team is working with Trydan to ensure that the sustainable management of natural resources is at the heart of the programme and that wind farm infrastructure will be integrated carefully into the working forest. Tree clearance will be kept to a minimum, environmentally sensitive features will be protected, and any areas cleared of trees will be replaced through our Compensatory Planting Programme . Vital timber production and environmental protection can continue, while additional revenues are generated by the wind farm projects.

“The projects are expected to deliver habitat restoration for improved biodiversity and   improved public access in line with our access and recreation strategy.”

 Most of Trydan's projects have grid connection dates in the mid 2030's. Trydan will be working to secure earlier connection dates through the current reforms to the grid connections queue.