English icon English
P1021799-2

Datganiad ar y cyd gan Brif Swyddogion Meddygol y DU: Ymestyn cyfnod hunan-ynysu

Joint statement by the UK Chief Medical Officers – extension of self-isolation period

"Mewn pobl symptomatig, mae Covid-19 yn fwyaf heintus ychydig cyn i’r symptomau ddechrau, ac am y dyddiau cyntaf ar ôl hynny. Mae'n bwysig iawn bod pobl sydd â symptomau yn ynysu eu hunain ac yn cael prawf, a fydd yn caniatáu olrhain cyswllt.

"Mae tystiolaeth, er ei bod yn dal yn gyfyngedig, wedi cryfhau ac mae'n dangos bod gan bobl â Covid sydd â salwch ysgafn ac sy'n gwella bosibilrwydd isel ond real o fod yn heintus rhwng 7 a 9 diwrnod ar ôl i salwch ddechrau.

"Rydym wedi ystyried y ffordd orau o dargedu ymyriadau er mwyn lleihau'r risg i'r boblogaeth yn gyffredinol ac rydym o'r farn, ar yr adeg hon yn yr epidemig, gyda phrofion eang a chyflym ar gael ac ystyried llacio mesurau eraill, erbyn hyn y cydbwysedd risg cywir yw i ymestyn y cyfnod hunan-ynysu o 7 i 10 diwrnod i'r rhai yn y gymuned sydd â symptomau neu ganlyniad prawf cadarnhaol.

"Bydd hyn yn helpu i sicrhau diogelwch ychwanegol i eraill yn y gymuned. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn amddiffyn y rhai sydd wedi bod yn cysgodi, ac o flaen yr hydref a'r gaeaf pryd y gallem weld mwy o drosglwyddo i'r gymuned.”