English icon English

Datganiad gan Brif Weinidog Cymru

Statement by the First Minister of Wales

Yn siarad yn y Senedd yn dilyn cael ei enwebu fel Prif Weinidog Cymru, dywedodd Mark Drakeford:

Llywydd, a ga i ddechrau drwy eich llongyfarch chi a'r Dirprwy Lywydd newydd ar gael eich ethol.

Hoffwn hefyd longyfarch holl aelodau'r Senedd – yn enwedig yr Aelodau newydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd dros y pum mlynedd nesaf.

Mae hwn wedi bod yn etholiad eithriadol.

Rwy'n falch iawn bod pobl ifanc un deg chwech ac un deg saith oed wedi gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiad hwn – diolch i gyfraith a basiwyd yn y siambr hon.

Yn awr, mae'n bryd i bob un ohonom ddefnyddio'r mandad sydd gennym i roi ar waith y syniadau y bu i ni ymgyrchu arnynt.

I Symud Cymru Ymlaen.

A dyna yw’r man cychwyn pwysig ar gyfer fy sylwadau heddiw.

Rydym yn dal i fod yn y pandemig, sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau.

Mae wedi ymestyn ein Gwasanaeth Iechyd a'r bobl sy'n gweithio ynddo.

Mae wedi niweidio bywydau ac effeithio ar fywoliaeth pobl.

Bydd y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fynd i'r afael â coronafeirws yn y ffordd ofalus rydym wedi ei wneud hyd yma – drwy ddilyn y wyddoniaeth a diogelu'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

A byddwn yn arwain Cymru i adferiad fydd yn adeiladu dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach i bawb – ni fydd neb yn cael ei ddal yn ôl ac ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl.

Rwy'n gwneud yr addewid pwysig hwn i'r Senedd heddiw yn sesiwn gyntaf y tymor newydd hwn.

Byddaf yn arwain Llywodraeth Lafur Cymru.

Ond byddwn yn llywodraethu mewn ffordd sy'n ceisio consensws ac a fydd yn ystyried syniadau newydd a blaengar – o ble bynnag y daw rheiny.

Syniadau a all wella dyfodol pobl Cymru.

O coronafeirws i aer glân; o incwm sylfaenol cyffredinol i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu prisio allan o gymunedau sy'n siarad Cymraeg.

Bydd y llywodraeth hon yn un sy’n gwrando ac a fydd yn cydweithio ag eraill, ble bynnag y bo hynny er budd Cymru.

Mae fy nghynnig i weithio gydag eraill yn estyn y tu hwnt i’r Siambr hon.

Mae’n cynnwys partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ledled Cymru.

A chymunedau a phobl drwy Gymru gyfan.

Byddwn yn atgyfnerthu’r bartneriaeth gymdeithasol yr ydym wedi’i datblygu dros yr ugain mlynedd diwethaf drwy ei gwneud yn rhan o’r gyfraith. Byddwn yn ei defnyddio i ganolbwyntio ar adferiad a’r gwaith angenrheidiol i wneud Cymru’n le addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda llywodraethau eraill hefyd, ledled y Deyrnas Unedig, ble bynnag y gwneir hynny drwy berthynas gyfartal a pharch cyfartal.

Llywydd, fy swydd i yw sefyll cornel Cymru, a phan fo angen gwneud hynny, ni fyddaf byth yn cymryd cam yn ôl. Ond fy man cychwyn fydd arwain llywodraeth sy’n bartner adeiladol a chadarnhaol sy’n gwrando, wrth inni fynd i’r afael â’r heriau hynny sy’n mynd y tu hwnt i’n ffiniau.

Byddaf, bob amser, yn atebol i’r Senedd hon ac i bobl Cymru.

Mae gan bob un ohonom yma heddiw un peth yn gyffredin – uwchlaw ac ar draws rhaniadau pleidiol.

Mae gennym ymrwymiad ar y cyd i newid bywydau pobl er gwell ac i wireddu potensial y wlad ragorol ac unigryw hon.

Dewch inni i gyd, felly, weithio i greu Cymru gryfach, gwyrddach a thecach.