English icon English

Datganiad gan Brif Weinidog Cymru

Statement from the First Minister of Wales

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae Vaughan Gething wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol hanesyddol i Gymru o dan rai o’r amgylchiadau anoddaf. O helpu i lywio Cymru drwy’r pandemig a chyflwyno un o'r gweithdrefnau brechu cyflymaf ar y blaned i sicrhau buddsoddiad mawr yn ein diwydiant lled-ddargludyddion. Mae Vaughan wedi cyflawni dro ar ôl tro ac wedi hyrwyddo achos datganoli yng Nghymru.

“Mae wastad wedi bod yn aelod gwych o dîm sydd wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi ac i eraill, hyd yn oed ar adegau o bwysau aruthrol yn y swyddi y mae wedi’u cyflawni dros bobl Cymru.

“Rydw i’n gwybod y bydd Vaughan yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau pwysig i’n gwlad ni yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

“Diolch Vaughan am bopeth rwyt ti wedi neud dros ein gwlad.”