Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog
Statement from the Deputy First Minister
Yn ymateb i'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU ynglŷn â rhyddhad eiddo amaethyddol, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn glir yn gyson i Lywodraeth y DU bwysigrwydd cynaliadwyedd hirdymor ffermio yng Nghymru, sy'n cael ei ategu gan ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
"Mae ein ffermydd teuluol bach a chanolig nodweddiadol yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru drwy ddarparu bwyd, gofalu am ein hamgylchedd, cefnogi cymunedau gwledig a helpu i ddiogelu'r iaith Gymraeg.
"Rydym wastad wedi bod yn glir y dylai llywodraeth y DU wrando ar bryderon ffermwyr Cymru, felly rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn.
"Yn y flwyddyn newydd, rydw i'n edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r undebau ffermio a gyda Llywodraeth y DU ar effaith y cyhoeddiad hwn yma yng Nghymru."