Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ar gau ysgolion yng Nghymru:
Statement from Minister for Education, Kirsty Williams, on school closures in Wales:
Rydym mewn cyfnod digyffelyb, un sy'n newid o awr i awr, ac mae llywodraethau ledled y byd yn gorfod gwneud penderfyniadau cyflym.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn ein lleoliadau addysg a gofal plant am y gwaith hanfodol rydych chi wedi bod yn ei wneud o dan bwysau anhygoel i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. Yr ydych wedi bod ar y rheng flaen o ran cefnogi ymdrechion ehangach i baratoi ar gyfer yr heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu'n awr, ac yr wyf yn hynod ddiolchgar a balch.
Heddiw, gallaf gyhoeddi ein bod yn cyflwyno toriad y Pasg yn gynharaf ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Bydd ysgolion ledled Cymru yn cau am ddarpariaeth addysg statudol fan hwyraf ar 20 Mawrth 2020.
Rwyf wedi bod yn glir hyd yn hyn fod parhad addysg a lles ein dysgwyr wedi bod wrth wraidd fy mhenderfyniadau. Bydd hyn yn wir bob amser.
Ar ôl gwyliau'r Pasg, bydd gan ysgolion ddiben newydd. Byddant yn helpu i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys gweithwyr allweddol sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i’r sefyllfa coronafeirws. Yr wyf yn gweithio gyda'm cyd-weinidogion yn y Cabinet, gyda swyddogion y Llywodraeth a'n partneriaid mewn llywodraeth leol i ddatblygu a chwblhau'r cynlluniau hyn.
Y meysydd allweddol yr ydym yn ystyried eu cefnogi a'u diogelu yw'r rhai sy'n fregus, sy'n cefnogi gweithwyr sy'n ymwneud â'r ymdrech genedlaethol i ymateb i'r sefyllfa yn yr ystyr ehangaf, a pharhad dysgu. Rydym yn edrych yn fanwl ar sut y gallwn gefnogi a diogelu pawb sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddaf yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich diweddaru.
Er y bydd hyn yn berthnasol i ysgolion, disgwylir i leoliadau gofal plant aros ar agor nes ein bod yn cael cyngor pendant gan y Prif Swyddog Meddygol a chan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod angen cau. Gall, a dylai rhieni siarad â'u darparwyr gofal plant arferol os oes angen gofal arnynt yn ystod gwyliau'r Pasg,
Yr wyf wedi trafod fy mwriad gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan, sy'n adlewyrchu barn awdurdodau lleol. Mae'n debygol y bydd gan rai o staff ysgol ran bwysig i'w chwarae yn hyn.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid allweddol i edrych ar sut y bydd hyn yn edrych ar gyfer lleoliadau addysg a gofal plant, gan gynnwys Dechrau'n Deg. Bydd y sefyllfa, wrth gwrs, yn esblygu dros y dyddiau nesaf a bydd yn cael ei hadolygu'n barhaus.
Un o'r penderfyniadau tyngedfennol y byddwn yn ceisio ei egluro ar fyrder yw'r arholiadau sydd ar ddod. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru a CBAC ar gyfres arholiadau eleni. Yn unol â phob gweinidog addysg ledled y DU, byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach cyn hir.
O'r cychwyn cyntaf, mae'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud wedi canolbwyntio ar gyngor iechyd y cyhoedd, ac mae'n iawn fod yr argymhellion hyn sy'n seiliedig ar wyddoniaeth yn ganolog i'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.
Bydd y cyhoeddiad yr wyf yn ei wneud heddiw yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn gallu cau’n drefnus a bod ganddynt yr amser i baratoi. Fodd bynnag, yr wyf yn ymwybodol bod Pwyllgor SAGE a COBR yn cyfarfod y prynhawn yma, a byddaf wrth gwrs yn gwrando'n astud i weld a oes angen newid cyngor ac unrhyw benderfyniadau brys pellach ynghylch cau ysgolion.
Bydd y penderfyniad heddiw yn helpu i sicrhau bod y broses o gau'n un trefnus, fel bod ysgolion ag amser i baratoi cyn y gwyliau cynnar.
Fy mhrif neges i bawb yw aros yn ddiogel ac iach. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn wynebu'r sefyllfa hon gyda'n gilydd.
Byddaf, wrth gwrs, yn parhau ‘ch diweddaru.
Dilynwch y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf. Mae'r canllawiau diweddaraf bob amser ar gael ar ein gwefan yn llyw.Cymru/coronafeirws