English icon English

Datganiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford am deithio yng Nghymru ac ymbellhau cymdeithasol.

Statement from First Minister Mark Drakeford about travelling in Wales and social distancing

Mae hunan-ynysu ar gyfer y rhai sydd â symptomau ac ymbellhau cymdeithasol gan bawb yn gwbl hanfodol yn awr os ydyn ni am oedi lledaeniad y feirws hwn ac achub bywydau.

Rhaid i ni i gyd ddilyn y cyngor hwn nawr i warchod ein gilydd a’n teuluoedd ac i helpu i sicrhau nad yw ein GIG o dan ormod o bwysau.

Mae ymbellhau cymdeithasol yn cynnwys osgoi pob taith heblaw am rai hanfodol ac os na fydd pobl yn dilyn y cyngor yma ni fydd gennym unrhyw ddewis ond defnyddio pwerau i’w orfodi.