Datganiad y Prif Weinidog – Mesurau Ychwanegol
Brynhawn heddiw mynychais gyfarfod COBR, lle cytunwyd ar fesurau arwyddocaol pellach i fynd i’r afael â’r achosion o goronafeirws ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Yn gynharach yr wythnos hon, cytunwyd ar nifer o gamau gweithredu pwysig gennym, i geisio atal lledaeniad y feirws.
Gofynnwyd i bobl weithredu, er enghraifft, drwy beidio â mynychu tafarndai, clybiau, bwytai a llefydd cyhoeddus eraill. Mae llawer o bobl wedi gwrando ar y cyngor cadarn hwnnw ac wedi ymddwyn yn gyfrifol er budd ein cymdeithas gyfan ni. Rydym wedi gweld hynny o’n cwmpas ni ym mhob man yn ystod y dyddiau diwethaf ac rwyf yn eithriadol ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud hynny.
Fodd bynnag, nawr mae’n rhaid i bawb wneud beth mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud eisoes, oherwydd fel arall, ni fyddwn yn arafu’r afiechyd ar y raddfa sy’n angenrheidiol. Felly ystyriodd a chytunodd COBR ar gyfres o fesurau pellach i gynyddu lefel y gydymffurfiaeth gyhoeddus â’r cyngor cynharach.
Mae iechyd yn gyfrifoldeb datganoledig, ac fel Gweinidogion Cymru, byddwn heno yn ymarfer ein pwerau o dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1984 er mwyn cau bwytai, tafarndai, bariau a chyfleusterau eraill lle mae pobl yn dod at ei gilydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys canolfannau hamdden, campfeydd, sinemâu, theatrau a siopau betio. Byddaf yn llofnodi’r rheoliadau angenrheidiol yn nes ymlaen heno a byddant yn dod i rym ar unwaith.
Nid ydym yn cymryd y cam hwn heb ystyriaeth ddwys ac rydym yn gwybod y bydd yn cael effaith aruthrol ar y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiannau sy’n cael eu heffeithio.
Ond dyma’r peth iawn i’w wneud. Rydym yn mynd i’r afael â’r feirws mewn ffordd benderfynol a than reolaeth er mwyn gwarchod a gofalu am y bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni.
Gyda’n gilydd fe allwn ni wneud gwahaniaeth.