English icon English
Traffic light system for Wales2

Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: cyhoeddi map ffordd Cymru

Unlocking Our Society and Economy: Wales’ roadmap published

  • Ar ôl bron i wyth wythnos o gyfyngiadau symud, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei chynigion ar gyfer y camau nesaf;
  • System goleuadau traffig Coch, Oren a Gwyrdd i gael ei defnyddio i lacio’r cyfyngiadau;
  • Bydd dod allan o’r cyfyngiadau yn cael ei arwain gan wyddoniaeth.

Heddiw, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi datgelu map ffordd goleuadau traffig sy’n amlinellu sut gallai Cymru ddod allan o’r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws.

Mae’r map ffordd, Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod, yn rhan o ddull cydlynol a gofalus o lacio’r cyfyngiadau ac mae’n adeiladu ar ei chwaer bapur, “Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad” a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill.

O dan y rheolau presennol, mae’n rhaid i bobl yng Nghymru aros gartref a chynnal cyswllt oddi mewn i’w cartref yn unig, gydag eithriadau cyfyngedig.

Mae’r cyfyngiadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn bodoli er mwyn gwarchod iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn datgan yn glir mai dim ond tra maent yn angenrheidiol y gellir cadw’r cyfyngiadau hyn yn eu lle.            

Diolch i ymdrechion arwrol pobl ledled Cymru, sydd wedi helpu i arafu lledaeniad y clefyd, mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi heddiw system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd er mwyn diffinio sut gellir dechrau llacio cyfyngiadau ar wahanol feysydd ym mywyd Cymru.                              

Bydd categorïau’r goleuadau traffig yn berthnasol ar draws bywyd Cymru, gan gynnwys y canlynol:

  • Ailagor ysgolion a chyfleusterau gofal plant
  • Gweld teulu a ffrindiau
  • Teithio yma ac acw
  • Chwarae gemau chwaraeon ac ymlacio
  • Gweithio neu gynnal busnes    
  • Siopa
  • Defnyddio gwasanaethau cyhoeddus
  • Ymarfer ffydd ac achlysuron arbennig

Mae’r dull goleuadau traffig yn seiliedig ar y canlynol:

  • Cyfyngiadau caeth – Ysgolion ar agor i ddisgyblion agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol yn unig, cynghori pobl i aros gartref, gan adael y tŷ dim ond ar gyfer teithio hanfodol a gweithio gartref os yw hynny’n bosib.
  • Coch – Galluogi ysgolion i reoli’r cynnydd mewn galw gan fwy o weithwyr allweddol a disgyblion agored i niwed yn dychwelyd; caniatáu teithio lleol, gan gynnwys ar gyfer manwerthu clicio-a-chasglu; pobl yn cael darparu neu dderbyn gofal a chymorth i/gan aelod o’r teulu neu ffrind o’r tu allan i’r cartref
  • Oren – Grwpiau blaenoriaeth o ddisgyblion i ddychwelyd i’r ysgol fesul camau; caniatáu teithio ar gyfer hamdden a hefyd cyfarfod grwpiau bychain o deulu neu ffrindiau ar gyfer ymarfer corff; pobl yn gallu cael at fannau manwerthu a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol; mwy o bobl yn teithio i’r gwaith
  • Gwyrdd – Pob plentyn a myfyriwr yn gallu cael at addysg; teithio digyfyngiad yn amodol ar gamau diogelu parhaus; caniatáu pob gweithgaredd chwaraeon, hamdden a diwylliannol, a hefyd cymdeithasu gyda ffrindiau, gan gadw pellter corfforol

Mae’r ddogfen yn datgan yn glir, o ystyried pwysigrwydd cyfyngu ar gyswllt cymdeithasol, y bydd rhaid gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu – ac mae’n gwahodd barn pobl am hyn. Mae’n eithaf posibl y bydd Cymru yn ‘goch’ ar gyfer un math o weithgaredd, yn ‘oren’ ar gyfer un arall ac o dan gyfyngiadau symud o hyd ar gyfer trydydd un.

Bydd y penderfyniadau ym mhob cam yn seiliedig ar farn Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth y DU a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu o brofiad gwledydd eraill, yn ogystal â Chyd-ganolfan Bioddiogelwch newydd y DU.  

Er mwyn osgoi ail don, a allai fod yn fwy na’r un gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu’r seilwaith sydd ei angen i reoli achosion o’r clefyd yn y dyfodol. Cafodd hyn ei ddatgan yn y Strategaeth ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Dros yr wyth wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ymdrech anhygoel, ym mhob rhan o’n cymdeithas, i ymateb i’r her i’n ffordd o fyw yn sgil y feirws COVID-19 – her na welwyd mo’i thebyg o’r blaen.

“O ganlyniad, rydyn ni, fel gwledydd eraill ar draws y byd, yn gallu dechrau meddwl sut y gallwn ddechrau llacio’r cyfyngiadau. Ond, wrth wneud hynny, mae’n hanfodol ein bod yn sylweddoli nad argyfwng tymor byr yw hwn. Hyd nes y ceir brechlyn neu driniaethau effeithiol, bydd raid inni fyw gyda’r clefyd yn ein cymdeithas a cheisio rheoli ei ledaeniad a lliniaru ei effeithiau.

“Gan fod pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn wynebu’r un heriau, rydym ni wastad wedi bod yn gryf o blaid gweithredu fel pedair gwlad wrth fynd ati i godi’r cyfyngiadau.

“Ond rhaid parchu hefyd y cyfrifoldeb sydd ar bob Llywodraeth i benderfynu pa mor gyflym y mae’n ddiogel gwneud newidiadau, a’r cydbwysedd y mae angen ei daro rhwng gwahanol ffyrdd o lacio – beth yw’r flaenoriaeth o ran caniatáu i bobl gwrdd â’u perthnasau agos, mynd i siopa neu i gael trin eu gwallt, dychwelyd i’r gwaith neu fynd am dro i lan y môr.

“Cyfyng yw’r posibiliadau o ran llacio’r cyfyngiadau presennol, felly mae angen gwneud dewisiadau. Rydyn ni am wneud y dewisiadau hynny drwy ymgynghori â’n rhanddeiliaid a phobl Cymru. 

“Dyma pam rydyn ni’n cyhoeddi’r ddogfen hon, nid fel y gair olaf, ond fel rhan o sgwrs sy’n parhau.                 

“Ond am y pythefnos nesaf, o leiaf, rwyf yn annog pawb yng Nghymru i gadw at y cyngor: Aros Gartref, Diogelu ein Gwasanaeth Iechyd ac Achub Bywydau.”