Dathlu degawd o gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial ac anelu at y sêr
Celebrating a decade of supporting learners to reach their star potential
Mae Academi Seren, sy'n helpu'r dysgwyr disgleiriaf i gael yr uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial, bellach yn ddeg oed.
Dros y degawd diwethaf, mae Seren wedi cefnogi miloedd o ddysgwyr ledled Cymru, gan eu grymuso i wneud penderfyniadau hyderus a gwybodus am eu dyfodol. Mae miloedd o raddedigion Seren bellach yn astudio yn rhai o brifysgolion gorau'r DU, yn ogystal â sefydliadau eraill ledled y byd.
I ddathlu'r garreg filltir hon, cynhaliodd Academi Seren ddigwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Roedd yr achlysur yn dathlu llwyddiannau dysgwyr Seren, ddoe a heddiw, ac yn cynnig llwyfan i gyfranogwyr rannu eu profiadau.
Fel rhan o'r digwyddiad, siaradodd Megan Salter am ei thaith gyda Seren o gael pum gradd A* yn ei haroliadau Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae hi'n gwneud PhD ar hyn o bryd. Dywedodd:
"Drwy Academi Seren sylweddolais bod gen i ddiddordeb angerddol yn y maes rwy' wedi dewis ei astudio, ac fe gefais yr hyder i wneud dewisiadau beiddgar, gwybodus am fy nyfodol academaidd. Trwy'r cyfleoedd uwch-gwricwlaidd, ehangodd Seren fy ngorwelion, gan gryfhau fy chwilfrydedd academaidd a'm hyblygrwydd deallusol, a thanio fy uchelgais i gyflawni fy mhotensial ac anelu’n uchel o ran y nodau addysgol a osodais i mi fy hun. Mae'r gwerthoedd a gefais gan Seren yn parhau i fod yn rhan bwysig o'm taith academaidd, ac rwy'n eu defnyddio yn fy astudiaethau PhD".
Aeth Jacques Marquis, a oedd yn rhan o garfan gyntaf Seren, ymlaen i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae'n parhau i gyfrannu at Seren fel mentor i ddysgwyr presennol. Dywedodd:
"Rwy'n teimlo'n wirioneddol freintiedig o fod wedi cael bod yn rhan o rwydwaith Seren fel dysgwr i ddechrau a nawr o ochr academaidd. Mae'r rhaglen hon wedi datblygu cryn dipyn dros y degawd diwethaf ac mae'n amlwg yn cael effaith ddwys ar fynediad dysgwyr at gyfleoedd ledled Prydain. Rwy'n gobeithio gallu parhau i gefnogi hynny am flynyddoedd i ddod."
Mae Sam Sherratt, cyn-fyfyriwr Seren arall a fu'n siarad ar y panel, ar hyn o bryd yn gwneud gradd-brentisiaeth gyda Phrifysgol De Cymru a chwmni ymgynghori digidol byd-eang yn y maes Systemau Digidol a Thechnoleg. Dywedodd:
"Roeddwn yn aelod o Academi Seren yn 2018 a 2019. Fe wnes i fwynhau'r dosbarthiadau meistr a'r awyrgylch cydweithredol yr oedd Seren yn ei annog. Roedd yn gyfle gwych i gael blas ar ragoriaeth mewn diwydiant. Fe wnes i hefyd fwynhau cwrdd â dysgwyr eraill o bob cwr o Gymru."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, a oedd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad:
"Rwy'n falch iawn o ymuno â'r dathliad gwych hwn i nodi deng mlynedd o Academi Seren. Dros y degawd diwethaf, mae Seren wedi trawsnewid bywydau miloedd o ddysgwyr, gan agor drysau i bosibiliadau newydd. Rydyn ni wedi dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a phartneriaethau cryf at ei gilydd i gefnogi ein dysgwyr mwyaf disglair i gyrraedd eu llawn botensial.
"Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae ein cyn-fyfyrwyr Seren wedi'i gyflawni, a hoffwn i ddiolch iddyn nhw am barhau i gysylltu a chyfranogi yn Academi Seren. Rwy'n edrych ymlaen at gael fy ysbrydoli gan lawer mwy o straeon am lwyddiant sy'n dangos yr effaith gadarnhaol y mae Seren wedi'i chael, ac y bydd yn parhau i'w chael, ar ddysgwyr yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol."