English icon English

Ddatganiad ar apwyntiad cadeirydd newydd am y Bwrdd Ddatblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

Statement on appointment of new chair of Agriculture and Horticulture Development Board (AHBD)

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth apwyntiad Nicholas Saphir fel ei gadeirydd newydd.

Dwedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’n bleser i mi groesawu Nicholas Saphir i'w rôl newydd fel Cadeirydd y Bwrdd Ddatblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

“Rwy’n sicr bydd ei brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd a ffermio yn werthfawr wrth i’r bwrdd parhau i arwain a chynghori’r sector ffermio ar y newidiadau a’r sialensiau sydd o’n flaen. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a sefydliadau cysylltiedig i gryfhau ac amddiffyn ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru.”

Nodiadau i olygyddion

Mae datganiad i'r wasg ar apwyntiad Mr Saphir gan y Bwrdd ar gael yma (Dolen gyswllt i wefan Saesneg):  https://ahdb.org.uk/news/uk-ministers-appoint-nicholas-saphir-as-new-chair-for-the-agriculture-and-horticulture-development-board