English icon English
doctor-using-smartphone-help-patient-sitting-his-office-doctor-talking-phone

Deallusrwydd artiffisial yn helpu i ganfod achosion o ganser yng Nghymru

AI helping to diagnose cancer in Wales.

Mae deallusrwydd artiffisial yn newid y ffordd y gwneir diagnosis o achosion posibl o ganser y prostad a chanser y fron yng Nghymru.

Yn sgil treialon llwyddiannus yn dadansoddi biopsïau, a arweiniodd at gynnydd 13% yn yr achosion o ganser a gafodd eu canfod, mae platfform deallusrwydd artiffisial IBEX Galen bellach yn cael ei dreialu ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr pan fo amheuaeth o ganser y fron.

Mae'r adnodd deallusrwydd artiffisial, sy'n cael ei ariannu drwy Gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru a'i gefnogi drwy waith Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach, yn dadansoddi delweddau digidol o samplau patholeg yn awtomatig, gan eu dosbarthu drwy system goleuadau traffig yn ôl y debygoliaeth eu bod yn ganseraidd, cyn iddynt gael eu hadolygu gan glinigwyr.

Drwy ddosbarthu'r delweddau, rhoddir blaenoriaeth i'r achosion mwyaf brys. Sicrheir canlyniadau gwell i gleifion drwy wneud diagnosis o achosion yn gyflymach, a allai olygu llai o fiopsïau a phrofion eraill i gleifion.

Mae platfform deallusrwydd artiffisial IBEX bellach yn cael ei brofi ymhellach mewn chwe bwrdd iechyd, gyda'r nod o ddefnyddio'r dechnoleg hon fel rhan o brofion rheolaidd am ganser y prostad, gan helpu timau clinigol i wneud diagnosis o ganserau eraill ac i asesu sut y gellir defnyddio'r dechnoleg er mwyn gwneud hynny.

Cafodd llwyddiant prosiect deallusrwydd artiffisial IBEX ei gymeradwyo yng Ngwobrau Arloesedd y DU, lle y cyhoeddwyd ei fod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Lledaenu Arloesedd.

Mae'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a thechnoleg debyg yn un enghraifft yn unig o'r ffordd y mae gwasanaethau digidol yn trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru. Er mwyn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo, ac i sicrhau bod Cymru yn parhau i arwain ar ofal iechyd digidol, heddiw lansiodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r strategaeth hon yn amlinellu'r disgwyliadau i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn ogystal â darparwyr gofal cymdeithasol, ynghylch sut y dylid defnyddio technolegau digidol a data er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwella profiad y claf a grymuso pobl i reoli eu hiechyd.

Ar ben adnoddau deallusrwydd artiffisial megis IBEX, ymysg yr enghreifftiau eraill o'r ffordd y mae technolegau digidol yn cael eu defnyddio yn GIG Cymru a'r mathau o arloesi y mae'r Strategaeth Digidol a Data yn awyddus i'w hannog y mae: Ap GIG Cymru, Cofnod Clinigol Claf Electronig Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a'r System Gwybodeg Canser.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:

“Drwy groesawu technolegau newydd, gallwn ni weddnewid y ffordd rydyn ni’n ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd, dod o hyd i ffyrdd newydd o achub bywydau a chynyddu perfformiad ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae defnyddio technoleg a arweinir gan ddata mewn modd arloesol ac effeithiol, gan symud at ofal iechyd digidol a manteisio ar dechnoleg newydd, yn hanfodol er mwyn inni ddelio â’r galw aruthrol a’r pwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae Cymru yn arloesi ym maes gofal iechyd digidol. Bydd moderneiddio’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei arwain gan dechnolegau digidol, data ac arloesedd yn y blynyddoedd nesa’. Dyna pam rwy’n lansio’r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei newydd wedd. Mae’n amlinellu sut y gallwn ni roi technolegau digidol wrth wraidd ein cynlluniau i gynyddu’r defnydd ohonyn nhw ac i fanteisio ar ddatblygiadau technolegol er mwyn gwella gofal iechyd yng Nghymru a helpu pobl i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach.

“Yn ystod fy ymweliad heddiw, rydyn ni’n gweld sut mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfleoedd rhagorol i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio ac yn darparu gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd. Mae'r manteision sy'n deillio o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i wneud diagnosis o ganser y tu hwnt i'n disgwyliadau. Mae'n wych bod chwe Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn profi'r dechnoleg hon ymhellach. Mae system IBEX yn addawol iawn, ac mae'n gyffrous meddwl am y posibiliadau o ran beth y mae'r math hwn o dechnoleg yn gallu ei wneud a sut y gellid ei defnyddio yn y dyfodol ar gyfer nifer o wahanol fathau o ganser posib’.”

Dywedodd Dr Muhammad Aslam, patholegydd ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol Gwasanaethau Cymorth Diagnostig a Chlinigol Gogledd Cymru:

“Dywedais o’r blaen fod defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwneud diagnosis a rhoi prognosis o ganser yn ein rhoi ar drothwy byd cyffrous newydd.

“Rwy'n credu hyn yn gryf, ac mae'n wych gweld y defnydd o'r hyn dwi'n ei alw yn ddeallusrwydd cynorthwyol, yn cael ei efelychu ledled Cymru.

”Rwy'n falch mai Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i dorri tir newydd drwy ddefnyddio'r dechnoleg hon yn glinigol, gyda chymorth cyllid Menter Ymchwil Busnesau Bach Llywodraeth Cymru.

“Mae canfod canser yn gynnar yn achub bywydau. Ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mae deallusrwydd artiffisial yn gwella prosesau gwneud diagnosis o ganser y prostad a chanser y fron. Ond megis dechrau yw hyn, a bydd yn arwain at wneud diagnosis yn gynt a darparu prognosis mwy cywir i gleifion â gwahanol fathau o ganser.

“Rwy'n teimlo'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ein cyflawniadau, ac rwy'n ddiolchgar am ei chymorth parhaus ar gyfer ein gwaith.”

DIWEDD