Deddfwriaeth i reoli etholiad y Senedd yn ystod y pandemig COVID yn cael y Cydsyniad Brenhinol
Legislation to manage Senedd election during covid pandemic receives Royal Assent
Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi rhoi’r Cydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth ar gyfer sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau.
Mae Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 yn cyflwyno cyfres o fesurau i’w gwneud yn haws i’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig fwrw pleidlais.
Bydd hefyd yn gam sylweddol ar gyfer lliniaru’r risg a fyddai’n codi yn sgil cael cyfnod estynedig pan na all y Senedd gyfarfod pe bai’r Senedd yn cael ei diddymu fel yr arfer, ar 7 Ebrill, ac na ellid cynnal yr etholiad ar 6 Mai oherwydd y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir y dylid parhau â’r etholiad ar 6 Mai 2021 fel y bwriadwyd. Dylai pawb baratoi ar y sail honno.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn bosibl i ohirio’r diwrnod pleidleisio os bydd y pandemig yn golygu bod y bygythiad i iechyd y cyhoedd a chynnal yr etholiad mor ddifrifol fel na fydd yn ddiogel ei gynnal ar yr adeg honno.
Bydd Bil yn cael y Cydsyniad Brenhinol pan fydd Clerc y Senedd yn cael ei hysbysu o Freinlythyrau o dan y Sêl Gymreig sydd wedi’u llofnodi â llaw Ei Mawrhydi ei hun yn nodi Ei Chydsyniad.
Rhoddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, y Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau mewn seremoni selio yn gynharach heddiw.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Rwy’n falch bod Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn awr wedi dod yn gyfraith.
“O ystyried natur anwadal y feirws, mae tipyn o ansicrwydd beth fydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd erbyn mis Mai. Dyna pam rydym wedi gweithredu nawr i ymateb i’r risg bosibl i’r etholiad sy’n deillio o’r pandemig.
“Bydd y Ddeddf yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd i fwrw pleidlais yn yr etholiad, ond eu bod yn gallu gwneud hynny yn ddiogel hefyd.”