Deddfwriaeth newydd i wella diogelwch adeiladau yng Nghymru
New legislation to improve building safety in Wales
"Diogelwch, atebolrwydd, a lleisiau preswylwyr."
Dyma dair prif egwyddor Bil diogelwch adeiladau nodedig a osodwyd gerbron y Senedd heddiw, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant.
Mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn rhan o raglen ehangach o ddiwygiadau gyda'r nod o wella diogelwch mewn adeiladau, ac mae'n rhan o ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i drychineb Tŵr Grenfell sy'n ceisio atal trychineb o'r fath rhag digwydd eto. Mae'n cynnwys:
- Rhaglen waith gyda'r nod o fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth o 11m ac uwch;
- Diwygiadau sylweddol i'r system rheolaeth adeiladu;
- Cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer adeiladau risg uchel;
- Cyfrifoldebau cliriach i ddeiliaid dyletswyddau;
- Cofrestru a rheoleiddio gorfodol gweithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu.
Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i asesu risgiau diogelwch adeiladau a'u rheoli tra bod adeiladau'n cael eu meddiannu, er budd preswylwyr ac eraill, gyda chyfundrefn orfodi gadarn i gefnogi hynny. Bydd dyletswyddau diogelwch tân hefyd yn gymwys i rai Tai Amlfeddiannaeth.
Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn creu llinellau atebolrwydd clir i ddeiliaid dyletswydd. Bydd gan y deiliaid dyletswydd hyn gyfrifoldeb cyfreithiol am asesu a rheoli diogelwch adeiladau, gan roi terfyn ar ddryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch preswylwyr ac eraill.
Yn ogystal, bydd y Bil yn gweld preswylwyr ym mhob adeilad rheoledig yn cael mwy o sicrwydd i godi cwynion diogelwch adeiladau ynghylch diogelwch eu cartrefi a llwybrau clir iddynt geisio iawn. Bydd hefyd yn gosod cyfrifoldebau ar breswylwyr i chwarae eu rhan i gadw eu hadeilad yn ddiogel.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant: "Bydd y Bil pwysig hwn yn trawsnewid diogelwch mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru yn sylfaenol.
"Ei egwyddorion allweddol yw diogelwch, atebolrwydd a lleisiau preswylwyr, ac mae'n mynd yn ehangach ac ymhellach na deddfwriaeth sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU.
"Mae'n creu cyfrifoldebau cyfreithiol clir i berchnogion ac eraill, yn rhoi hawliau a llwybrau newydd i breswylwyr godi cwynion, yn galluogi safonau ar gyfer asesiadau proffesiynol, ac yn darparu pwerau gorfodi cadarn pan nad yw gofynion diogelwch yn cael eu bodloni.
"Rhaid mai diogelwch a llesiant pobl yn eu cartrefi yw ein blaenoriaeth ni o hyd.
"Mae'r Bil hwn yn rhan o raglen ehangach i sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn fwy diogel, a bod pobl yn cael eu gwarchod yn eu cartrefi.
"Rhaid i waddol Tŵr Grenfell olygu newid ystyrlon. Er mwyn y rhai a gollodd eu bywydau, eu teuluoedd, a'r goroeswyr, rhaid i ni sicrhau na all trychineb o'r fath byth ddigwydd yng Nghymru.
DIWEDD