English icon English
woman-in-white-shirt-sitting-on-green-chair-3952007-2

Deintyddiaeth a choronafeirws: Datganiad gan Brif Swyddog Deintyddol Cymru

Dentistry and coronavirus: Statement by the Chief Dental Officer for Wales

Er mwyn helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu, rydym wedi bod yn cynnig llai o wasanaethau deintyddol arferol y GIG ers mis Mawrth, er mwyn helpu i ddiogelu’r cyhoedd, timau deintyddol a’n cymunedau lleol. 

Mae llawer o driniaethau deintyddol, megis llenwi dannedd a chrafu plac oddi arnynt, yn defnyddio driliau cyflym ac offer arall sy’n “sy'n cynhyrchu aerosol” – hynny yw,  maent yn chwythu defnynnau mân i’r aer. Gallai hynny, yn ystod y pandemig presennol, olygu bod risg o ledaenu’r feirws, a dyna pam yr ydym wedi gofyn i ddeintyddion roi’r gorau i waith cyffredinol arferol am y tro.  

Wedi dweud hynny, mae deintyddion wedi bod ar gael i gynnig gofal brys drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Maent wedi gweld 10,000 o bobl mewn deintyddfeydd ac wedi rhoi 125,000 o ymgyngoriadau o bell, naill ai dros y ffôn neu drwy wasanaethau fideo. Maent wedi bod yn parhau i roi presgripsiynau am feddyginiaethau lladd poen a gwrthfiotigau pan oedd angen.

Agorwyd pymtheg o ganolfannau sy’n cynnig gofal deintyddol brys i bobl o bob cwr o’r wlad. Mae’r canolfannau hyn wedi rhoi triniaeth frys i fwy na 4,000 o bobl – roedd hynny’n cynnwys tynnu dannedd, agor dannedd er mwyn draenio crawn, a thrin anafiadau trawmatig. 

Nid yw coronafeirws wedi diflannu ac mae’n debyg y byddwn yn byw gyda’r feirws a’i ganlyniadau am beth amser i ddod. Bydd gwasanaethau deintyddol yn cael eu hailgyflwyno’n raddol, yn unol â’r ffordd ofalus, ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i lacio’r cyfyngiadau symud. 

Wrth i lefelau coronafeirws sefydlogi ac wrth i’r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio, rydym wrthi’n ystyried sut y gallwn ailgyflwyno gwasanaethau deintyddol mewn tri cham:

  • Y cam cyntaf: Bydd canolfannau deintyddol brys a deintyddfeydd yn cyflwyno rhagor o driniaethau, a bydd ystod lawn o ofal, gan gynnwys llenwi dannedd, ar gael i bawb y mae arnynt angen triniaeth ar frys ac sydd wedi cael problemau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Y grŵp hwn o bobl fydd yn cael cynnig asesiad a gofal yn gyntaf.
  • Yr ail gam: Bydd ystod lawn o ofal ar gael mewn rhagor o ddeintyddfeydd, a bydd pobl y mae arnynt angen triniaeth yn cael blaenoriaeth, gan gynnwys y bobl hynny y gohiriwyd eu triniaeth oherwydd y pandemig.
  • Y trydydd cam: Bydd archwiliadau rheolaidd yn ailddechrau ar gyfer pobl nad oes ganddynt unrhyw broblemau deintyddol ac sydd â chegau iach.

Bydd y cam cyntaf yn dechrau ar 1 Gorffennaf, gan flaenoriaethu ar sail angen. Bydd mesurau llym i reoli haint, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol, yn eu lle er mwyn diogelu staff y deintyddfeydd a’r bobl a fydd yn cael eu hasesu.  

Wrth i wasanaethau deintyddol arferol gael eu hailgyflwyno, byddwn yn parhau i wella mynediad at wasanaethau deintyddol i bawb. Bydd pawb a fydd yn mynd at un o ddeintyddion y GIG yn cael archwiliad llawn o’u dannedd ac o gig y dannedd, yn ogystal ag asesiad manwl o unrhyw risgiau y gwyddys amdanynt, a gwybodaeth am sut i gadw’r geg yn iach ac atal unrhyw broblemau yn y dyfodol.

Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn aros i gael triniaeth yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod pawb yn cael eu trin cyn gynted ag y bydd modd gwneud hynny’n ddiogel. Gofynnwn yn garedig ichi barhau i fod yn amyneddgar a galluogi’r rheini sydd yn yr angen mwyaf i gael eu trin yn gyntaf.

- Dr Colette Bridgman, Prif Swyddog Deintyddol Cymru