Dewis Herio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod: Ni fydd Cymru’n goddef camdriniaeth nac anghydraddoldeb
Choose to Challenge on International Women’s Day: Wales won’t be a bystander to abuse and inequality
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, yn gofyn i bobl Cymru ddewis herio rhagfarn ar sail rhyw, anghydraddoldeb a thrais yn erbyn menywod.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle perffaith i ddathlu llwyddiannau menywod – a chymryd camau yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
"Y thema eleni yw Dewis Herio. Mae tystiolaeth yn dangos yn glir bod menywod yn dal i gael eu trin yn annheg, ond drwy herio daw newid.
"Mae'r wythnos hon hefyd yn cael ei galw’n ‘No More Week’, cyfle i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i ysbrydoli newid a fydd yn helpu i greu diwylliant o ddiogelwch, cydraddoldeb a pharch yn ein cymunedau.
"Fel unigolion, rydym yn gyfrifol am ein meddyliau a'n gweithredoedd ein hunain. Heddiw, rwy'n galw ar Gymru i ddewis parchu hawliau menywod, dewis newid ein hymddygiad, a dewis adnabod a herio ymddygiad gan eraill sy’n cam-drin neu’n gwahaniaethu. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau cydraddoldeb.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod y cyfnod o fod yn gaeth y tu ôl i ddrysau caeedig gyda chamdrinwyr wedi cynyddu'r risg i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Nid yw’r feirws wedi effeithio ar bawb yn yr un modd, ac mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw'r cloc yn cael ei droi yn ôl ar y cynnydd rydym wedi'i wneud i gefnogi menywod a merched yng Nghymru.
"Rydyn ni i gyd wedi gorfod treulio mwy o amser gartref. Rydyn ni’n gwybod nad yw pob cartref yn fan diogel. Gall y cyfyngiadau o ran cadw pellter cymdeithasol a hunanynysu fod yn frawychus i ddioddefwyr trais a chamdriniaeth, gan chwyddo pŵer a rheolaeth camdrinwyr, a chynyddu'r risg i ddioddefwyr.
"Ni fydd Cymru'n goddef camdriniaeth. Rydyn ni am greu diwylliant ledled Cymru lle mae pobl yn adnabod arwyddion camdriniaeth ac yn gwybod sut i helpu mewn ffordd ddiogel. Mae ein modiwl e-ddysgu VAWDASV ar gael i bawb – gall gwybodaeth helpu i achub bywydau.
"Heddiw rydym yn lansio cam nesaf ein hymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre', gan atgoffa dioddefwyr, goroeswyr ac unigolion pryderus bod gwasanaethau ar gael i helpu o hyd. Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn parhau i fod ar agor 24 awr y dydd, bob dydd, i gynnig cymorth a chyngor.
"Gyda'n gilydd, gallwn herio camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, a sicrhau dyfodol lle mae menywod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, beth bynnag maen nhw'n dewis ei wneud."
Dywedodd Gwendolyn Sterk, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Cymorth i Ferched Cymru:
"Rydyn ni wedi gweld ymdeimlad anhygoel o gymuned yn ystod y pandemig COVID 19. Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd mewn ymgais i ddileu'r feirws ac i gefnogi ei gilydd.
"Fodd bynnag, rydyn ni yn Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn gwybod bod mwy o alw am gymorth wedi bod ymysg goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod y cyfnod hwn.
"Mae'r ymateb cymunedol a'r undod cymdeithasol y mae COVID 19 wedi'i ysbrydoli yn hanfodol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Fel sy’n wir am y mesurau cadw pellter cymdeithasol, nid oes modd bod yn effeithiol oni bai bod pob un ohonom yn ymrwymo. Mae'r pandemig wedi dangos yn glir nad oes modd osgoi’r ffaith bod trais yn erbyn menywod a merched yn fater i bawb.
"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym yn annog pawb i ddod at ei gilydd i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ac i gydweithio i atal trais a cham-drin menywod a merched, sy'n parhau ar lefelau epidemig.
"Yn ystod y pandemig fe wnaethom groesawu’r gefnogaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i'n galluogi i gynhyrchu canllawiau ar gyfer ein pecyn #SefyllGydaGoroeswyr. Bydd hyn yn ein helpu i gefnogi cymunedau i herio'r agweddau sy'n caniatáu i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol barhau, gan gynnig ymatebion diogel a chyfeirio goroeswyr at wasanaethau ledled Cymru."