Digwyddiadau dychrynllyd a hwyl! Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd ar gyfer hanner tymor
Haunted happenings and hwyl: Welsh Museums Festival returns for half term
O ddathliadau Calan Gaeaf dychrynllyd i gartref enwog a llond gwlad o hwyl, mae digonedd o hwyl ac antur ar gael dros hanner tymor mis Hydref wrth i Ŵyl Amgueddfeydd Cymru gael ei chynnal am yr unfed flwyddyn ar ddeg Mae gan yr Ŵyl arbennig hon hyd yn oed ei phasbort antur ei hun.
Mae'r dathliad wythnos o hyd yn dechrau heddiw [dydd Sadwrn 25 Hydref, tan ddydd Sul 2 Tachwedd] gydag ystod eang o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn dros 50 o amgueddfeydd ac orielau ar draws y wlad.
Caiff yr ŵyl ei threfnu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a'i chefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnig llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig cost isel neu am ddim i deuluoedd ar draws amgueddfeydd sy'n cymryd rhan. Mae hefyd yn lansio Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru ddwyieithog, sy'n parhau hyd Pasg 2026.
Eleni mae dros 50 o leoliadau yn cymryd rhan, o Gartref Dylan Thomas yn Nhalacharn lle gall ymwelwyr brynu copi o'r llyfryn newydd sbon 'Hanes Hwyl' gan y bardd Aneirin Karadog, i anturiaethau anhygoel yn Oriel Môn gan gynnwys clwb celf Calan Gaeaf am ddim lle gall ymwelwyr addurno eu pwmpen eu hunain gan ddefnyddio technegau collage a phaent, i Amgueddfa Caerdydd lle gall ymwelwyr gymryd rhan mewn llwybr hela ysbrydion, gwneud crefftau a chymryd rhan mewn gweithgareddau brawychus yn ogystal â gwylio ffilm ddychrynllyd.
I nodi dechrau'r dathliadau, ymwelodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant, ag Amgueddfa Caerdydd.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant:
"Unwaith eto mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru nid yn unig yn darparu cyfle gwych i bawb ddod i fwynhau eu diwylliant lleol, ond mae hefyd yn llwyddo i arddangos yr hyn sydd gan ein hamgueddfeydd arbennig ledled y wlad i'w gynnig.
"Mae'r Ŵyl yn tynnu sylw at amrywiaeth amgueddfeydd yng Nghymru ac rwyf am fanteisio ar y cyfle i gydnabod yr effaith werthfawr y mae amgueddfeydd lleol yn ei chael yn eu cymunedau - fel canolfannau dysgu gydol oes ac iechyd a lles, ond hefyd am yr effaith economaidd y maent yn ei chael fel atyniadau i ymwelwyr, i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd."
Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru:
"Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn trefnu Gŵyl Amgueddfeydd Cymru i arddangos bwrlwm a chydweithrediad sector amgueddfeydd Cymru. Gyda 34 o amgueddfeydd hefyd yn cymryd rhan yn Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru hyd at fis Ebrill 2026, rydym yn estyn ysbryd yr ŵyl am fisoedd i ddod.
"Eleni, mae gennym hefyd adnodd newydd sbon sy'n archwilio hanes 'hwyl'. Mae'r adnodd yn cynnig cyfleoedd i amgueddfeydd ac orielau o bob maint, yn enwedig lleoliadau llai a arweinir gan wirfoddolwyr, estyn croeso cynnes i ymwelwyr, cynnig profiadau tebyg iddynt ac ennyn eu diddordeb yn nhreftadaeth Cymru."
I gael rhagor o wybodaeth ewch i museumsfederation.cymru/cy