English icon English

Dim angen pas Covid mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored.

Covid pass no longer required for indoor or outdoor events.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas Covid i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.

Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng.

O heddiw (dydd Gwener, 18 Chwefror), ni fydd angen y Pas Covid domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond os bydd y lleoliad neu’r digwyddiad ei hun am fynnu pas, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.

Bydd y Pas Covid rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau ar gyfer gwneud teithiau rhyngwladol yn ddiogel. Dylai teithwyr edrych beth yw rheolau’r wlad y maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.

Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y Pas Covid yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau’n agored ac i ddiogelu Cymru.

“Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a’u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni’n hyderus bod cyfraddau’r coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o’r diwedd ar fin dod ar fryn.”