English icon English

Dim newid i sefyllfa'r ysgolion ar 1 Mehefin, meddai'r Gweinidog Addysg

“Situation for schools will not change on June 1st”, Education Minister says

"Ni fydd y sefyllfa i ysgolion Cymru yn newid ar y cyntaf o Fehefin." Dyna oedd neges Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg heddiw wrth iddi gadarnhau'r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer addysg yng Nghymru.

Mewn neges fideo ar ei chyfrif Twitter, dywedodd Kirsty Williams:

"Fel y gwyddoch, mae llawer o ddyfalu ynglŷn â'r hyn a allai gael ei gyhoeddi o bosib ynghylch ysgolion yn Lloegr y penwythnos hwn.

"Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, byddwch bob amser yn clywed gennyf yn uniongyrchol am y penderfyniadau a wnawn yng Nghymru ar gyfer ein disgyblion, ein rhieni a staff yr ysgol.

"Ni fydd y sefyllfa i ysgolion yng Nghymru yn newid ar 1 Mehefin. Rwy’n eich sicrhau y byddwn yn rhoi digon o amser i bawb gynllunio cyn i'r cam nesaf ddechrau.

"Bydd unrhyw benderfyniad i gynyddu gweithrediad ysgolion yn cael ei gyfathrebu ymhell ymlaen llaw. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi yn y gwaith paratoi hwn.

"Yn y cyfamser, dylai gweithwyr allweddol a'r rhai sydd angen defnyddio ysgolion neu ganolfannau addysg ar gyfer eu plant barhau i wneud hynny.

"Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf a byddwn ond yn ystyried cael mwy o ddisgyblion a staff mewn ysgolion pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Wrth gwrs, bydd angen i ni sicrhau y gellir cadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol."

Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu hefyd at yr holl brif undebau athrawon yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mewn ymateb i'w pryderon y bydd ysgolion yn agor i'r rhan fwyaf o ddisgyblion cyn ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Yr wythnos nesaf, bydd y Gweinidog yn cyhoeddi dogfen weithio sy'n nodi mwy am y syniadau, y gwaith cynllunio a'r modelu ar gyfer y camau nesaf i addysg yng Nghymru, gan gynnwys gofal plant ac addysg bellach. Bydd y ddogfen yn cynnwys sut y bydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud a phwy fydd yn darparu cyngor ar y penderfyniadau hynny. 

Ailadroddodd y Gweinidog y pum egwyddor allweddol a nodwyd ganddi yn flaenorol i benderfynu pryd a sut y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddarparu addysg ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion.

Dywedodd:

"O'm pum egwyddor, y cyntaf, a'r pwysicaf, yw diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff."

Nododd y Gweinidog ei phum egwyddor allweddol ar 27 Ebrill, sef:

  1. Diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol myfyrwyr a staff
  2. Cyfraniad parhaus i’r ymdrech a'r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19
  3. Hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant gynllunio ymlaen llaw
  4. Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig
  5. Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel pellhau, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.