English icon English
Mark Drakeford MS Cabinet Secretary for Finance and Welsh Language (Landscape)

“Dim ond y dechrau” yw'r Gyllideb Ddrafft £27 biliwn – Ysgrifennydd Cyllid

£27bn Draft Budget “just the start” – Finance Secretary

Mae mwy na £27 biliwn wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mai “dim ond y dechrau” yw Cyllideb Ddrafft Cymru ar gyfer 2026-27, wrth iddo annog pleidiau gwleidyddol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei phasio ym mis Ionawr 2026.

Mae'n darparu llwyfan sefydlog i wasanaethau cyhoeddus gynllunio yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd.

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd gan holl adrannau'r llywodraeth o leiaf yr un faint o gyllid, mewn termau real, ag a oedd ganddynt eleni.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

“Y Gyllideb Ddrafft yw dechrau proses y gyllideb – nid y diwedd. Mae'n darparu sylfaen gadarn i helpu gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

“Gallant fod yn hyderus y gellir gwneud mwy wrth i ni weithio tuag at y Gyllideb Derfynol ym mis Ionawr. Bydd llawer yn newid rhwng nawr a'r bleidlais yn y Senedd ddiwedd mis Ionawr.

“Mae fy nrws ar agor bob amser i weithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd sy'n rhannu fy nghred bod modd cyflawni cyllideb fwy uchelgeisiol a bod gennym gyfrifoldeb ar y cyd i basio Cyllideb Cymru.”

Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam – heddiw yw'r cam amlinellol cyntaf, pan fydd dyraniadau'r adrannau'n cael eu cyhoeddi:

  • Mae cyllideb uwch y llynedd yn parhau eleni, gyda chynnydd o 2% arall, sy'n cydnabod rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer chwyddiant.

  • Rydym yn ailadrodd y ymrwymiadau a wnaed yng Nghyllideb 2025-26 ac yn rhoi mwy na £800m o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru.

  • Mae mwy na £27.1 biliwn yn cael ei ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft – 98.6% o'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

  • Yr adran iechyd, gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n derbyn y dyraniad refeniw mwyaf, sef £12.4 biliwn.

  • Nid oes unrhyw gynnydd yng Nghyfraddau Treth Incwm Cymru nac yn y trothwyon ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Bydd cyfraddau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cynyddu yn ôl y Mynegai Prisiau Manwerthu a ragweli.
  • Rydym yn benderfynol o gydnabod yr amgylchiadau penodol sy’n effeithio ar lywodraeth leol wrth i ni weithio gyda'n gilydd ar setliad a fydd yn diogelu swyddi a gwasanaethau rheng flaen, gan ddeall y rheolau llym y mae'n rhaid iddi gydymffurfio â nhw wrth lunio ei chyllidebau.

    Bydd cam nesaf y Gyllideb Ddrafft, sy'n cynnwys cynlluniau gwariant adrannol manylach, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd. Bydd y setliad llywodraeth leol drafft yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Tachwedd.

    Ychwanegodd Mark Drakeford:

    “Rydyn ni eisiau rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'r bobl sy'n dibynnu arnynt. Bydd ein cynlluniau gwariant yn parhau i flaenoriaethu Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cysylltu cymunedau, a chyfleoedd i bob teulu.”

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau ar gyfer golygyddion:

Amserlen ar gyfer y Gyllideb Ddrafft:

  • 14 Hydref 2025                 Cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft (cam 1). Amlinellu dyraniadau lefel uchel yn ôl Prif Grwpiau Gwariant (MEG) ar gyfer pob un o adrannau Llywodraeth Cymru.
  • 3 Tachwedd 2025             Cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft Manwl (cam 2), nodi cynlluniau gwariant yn ôl llinellau gwariant yn y gyllideb (BEL) ar gyfer pob un o adrannau Llywodraeth Cymru.
  • 26 Tachwedd 2025            Cyllideb yr Hydref ar gyfer y DU
  • Diwedd Tachwedd 2025     Cyhoeddi'r setliad llywodraeth leol drafft          (dyddiad i'w gadarnhau)
  • 20 Ionawr 2026                 Cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol. 

Cyhoeddi'r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol

  • 27 Ionawr 2026                 Dadl a phleidlais ar y Gyllideb Derfynol

Pleidlais ar gynigion treth
Pleidlais ar y setliad llywodraeth leol

Yng nghyllideb Llywodraeth Cymru:

Ystyr MEG yw Prif Grŵp Gwariant. Dyma sut mae Llywodraeth Cymru yn categoreiddio ei dyraniadau gwariant ar draws y prif bortffolios fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysg, Trafnidiaeth, a mwy. Mae pob MEG yn cynnwys gwariant ar adnoddau (costau gweithredu o ddydd i ddydd), a gwariant cyfalaf (buddsoddiadau tymor hir fel seilwaith).

Ystyr BEL yw Llinell Wariant yn y Gyllideb. Mae'r rhain yn darparu mwy o fanylion am sut mae arian yn cael ei ddyrannu ar lefel fanwl.

Mae’r dogfennau'r Gyllideb Ddrafft ar gael yn:

https://www.llyw.cymru/cyllideb-ddrafft-2026-2027

https://www.gov.wales/draft-budget-2026-2027