English icon English

Diogelu cymunedau Cymru rhag risgiau tomenni glo

Protecting Welsh communities from coal tip risks

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymweld â chymuned sy'n byw yng nghysgod tomen lo segur yn Rhondda Cynon Taf i drafod y buddsoddiad sylweddol parhaus sy'n cael ei wneud i ddiogelu cymunedau fel rhain ledled Cymru.

Mae Tomen Graig Ddu, Dinas, sydd wedi'i lleoli uwchben Ffordd Graigddu yn Dinas, yn un o nifer o brosiectau sy'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau'n ddiogel am genedlaethau i ddod.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi derbyn bron i £40m o gyllid Grant Diogelwch Tomenni Glo ers 2021, gan gynnwys dros £11m o gyllid a ddyrannwyd eleni.

Mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer monitro tomenni ac archwiliadau rheolaidd, atgyweiriadau o ganlyniad i dywydd garw, cynnal a chadw a rheoli llystyfiant, ac adolygiadau manwl o domenni blaenoriaeth gan gynnwys asesiadau draenio a gwaith sefydlogi.

Yn gynharach y mis hwn, pasiwyd y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU, i amddiffyn cymunedau Cymru rhag tomenni segur, glo a di-lo, hefyd gan y Senedd.

Bydd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig yn creu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru i fynd i'r afael â risgiau diogelwch a achosir gan orffennol diwydiannol Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

"Mae'r Llywodraeth hon yn ddiwyro yn ein hymrwymiad i ddiogelu ein cymunedau ac mae wedi gweithredu dro ar ôl tro i ddelio a gwaddol ein gorffennol diwydiannol.

"Mae buddsoddi mewn diogelwch tomenni glo nid yn unig yn cefnogi'r rhai sy'n byw yng nghysgod y tomenni ond hefyd yn dod â thwf economaidd a chyfleoedd am gyflogaeth.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU i gynnal momentwm yn y maes pwysig hwn, gan sicrhau bod cymunedau'n ddiogel nawr ac yn y dyfodol"

Ym mis Mawrth, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn darparu £34m i bartneriaid cyhoeddus ymgymryd â gwaith ar 130 o domenni glo ledled Cymru y flwyddyn ariannol hon. Mae'r cynigion yn cynnwys mân waith cynnal a chadw hyd at brosiectau cyfalaf mawr gwerth hyd at £5.85m.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn yr Adolygiad Gwariant y bydd yn darparu £118m dros dair blynedd tuag at ddiogelwch tomenni glo.

Ynghyd â buddsoddiad Llywodraeth Cymru o dros £100m y tymor Senedd hwn, mae buddsoddiad ar y cyd yn y DU a Llywodraeth Cymru mewn diogelwch tomenni glo bellach yn dros £220m.