English icon English

Diogelu tenantiaid a landlordiaid sy’n cael eu heffeithio gan y coronafeirws

Greater protection for tenants and landlords affected by Coronavirus in Wales

Bydd deddfwriaeth frys i amddiffyn pobl sy’n rhentu a landlordiaid sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 yn gymwys i Gymru, cadarnhaodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd y mesur sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU i atal achosion o droi allan o lety cymdeithasol neu gartref wedi’i rentu’n breifat yn gymwys i denantiaid Cymru.

Ymysg y mesurau diogelu newydd dan y bil brys bydd y canlynol:

  • Ni fydd modd i landlordiaid ddechrau achosion meddiannu i droi tenantiaid allan am gyfnod o dri mis o leiaf yn ystod yr argyfwng
  • Bydd y cynnig i ohirio taliadau morgais am dri mis yn cael ei ymestyn i forgeisi Prynu i Osod er mwyn diogelu landlordiaid.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rydyn ni’n cymryd camau i amddiffyn tenantiaid a landlordiaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y coronafeirws. Mae’n iawn fod tenantiaid Cymru yn cael manteisio ar y mesur hwn, ond hefyd mae angen gwneud mwy i roi sylw i’r mater craidd o roi hysbysiadau meddiannu yn y lle cyntaf. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu tenantiaid yng Nghymru”.

“Mae’n hanfodol sicrhau na fydd unrhyw un sy’n rhentu cartref yng Nghymru yn cael ei droi allan yn ystod y cyfnod anodd hwn, na welwyd ei debyg o’r blaen. Bydd y mesurau hyn yn lleddfu’r pwysau ar landlordiaid i wneud taliadau morgais, gan ostwng y pwysau ymhellach ar denantiaid o ganlyniad”.

DIWEDD