Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi cynnal digwyddiad i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VJ
Deputy First Minister hosts event to mark 80th anniversary of VJ Day
Cynhaliwyd seremoni arbennig yng Nghaerdydd heddiw i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).
Bu Dirprwy Brif Weinidog yn cynrychioli Cymru yn y gwasanaeth, wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, i anrhydeddu cyn-filwyr Cymreig a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gosododd Huw Irranca-Davies torch, ochr yn ochr â'r AS, y Fonesig Nia Griffiths a Mr Masaki Ikegami, Dirprwy Lysgennad Llysgenhadaeth Japan yn y DU.
Ar ôl y seremoni fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog cynnal derbyniad preifat yn y Deml Heddwch, lle bydd teuluoedd cyn-filwyr VJ yn ymgynnull i gofio gwasanaeth eu hanwyliaid.
Mae Diwrnod VJ, a nodir ar 15 Awst, yn gyfle i gofio'r dyddiad pan ildiodd Japan a olygodd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Heddiw rydym yn anrhydeddu cyn-filwyr Cymru a phawb a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers y dyddiad hwn, rydym yn cofio nid yn unig eu gwasanaeth, ond hefyd bwysigrwydd cymod. Rhaid i ni sicrhau nad yw eu straeon na'u haberth byth yn cael eu hanghofio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddeall gwir gost rhyfel a gwerth heddwch."