Dirprwyaeth fasnach rithwir Gymreig yn ceisio cysylltiadau agosach â Gwlad y Basg
Welsh virtual trade delegation seek closer ties with Basque Country
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi deg busnes o bob rhan o Gymru i feithrin cysylltiadau masnach newydd a chryfhau'r cysylltiadau presennol â Gwlad y Basg drwy genhadaeth fasnach rithwir.
Mae'r busnesau, o sectorau gwyddorau bywyd a gofal iechyd Cymru, yn mynd ar y daith fasnach rithwir, sy'n digwydd rhwng 1 a 12 Mawrth, i rwydweithio, cyfnewid gwybodaeth a datblygu cysylltiadau masnachu a chydweithredol gydag amrywiaeth o bartneriaid a chwsmeriaid posibl yng Ngwlad y Basg.
Nodir Gwlad y Basg fel rhanbarth partner â blaenoriaeth yn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a ffurfiolwyd y berthynas hon ym mis Gorffennaf 2018 gyda llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Mae'r daith fasnach rithwir yn cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn y Cynllun Gweithredu Allforio a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gefnogi datblygiad allforion o Gymru, gan gynnwys galluogi cwmnïau mewn sectorau allforio allweddol i archwilio cyfleoedd mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Mae cyfranogwyr yn cynnwys cwmnïau sy'n cael eu cefnogi drwy fenter Clystyru Allforio beilot newydd ar gyfer gwyddorau bywyd gyda'r nod o ddod â chwmnïau at ei gilydd i rannu arfer gorau a hyrwyddo allforion yn y sector hwn. Bydd y daith yn adeiladu ar y cysylltiadau agos sydd eisoes â Masnach a Buddsoddi Gwlad y Basg a chlwstwr Gofal Iechyd Gwlad y Basg i archwilio masnach bosibl a chyfleoedd i gydweithio mewn technoleg ac ymchwil.
Hyd yma, cafwyd sawl enghraifft nodedig o gydweithio llwyddiannus rhwng busnesau yng Nghymru a Gwlad y Basg, gan gynnwys Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF) a fuddsoddodd yng Nghymru ac sydd bellach yn hyfforddi gweithgynhyrchu ar gyfer Metro De Cymru.
Bydd y cwmnïau'n cael eu cysylltu a'u cyflwyno i ddarpar bartneriaid busnes rhithwir. Bydd hyn yn helpu cwmnïau o Gymru a Gwlad y Basg i ymgysylltu a datblygu perthynas, gyda'r nod o gyfarfod wyneb yn wyneb pan fo hynny'n bosibl yn y pen draw.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych i ni ddathlu'r cwmnïau gwych sydd gennym yma yng Nghymru ac arddangos eu nwyddau a'u gwasanaethau i rannau eraill o'r byd.
"Rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio ar y cyd i gyflwyno'r digwyddiad hwn gyda'n cydweithwyr yng Ngwlad y Basg, sydd â sylfaen weithgynhyrchu gref ac sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac arloesi, gan ei gwneud yn bartner allweddol i Gymru. Rydym yn gwerthfawrogi'r cysylltiadau cryf yr ydym wedi'u datblygu dros y blynyddoedd, yn enwedig ar gyfer masnach a buddsoddi, a gobethio y bydd hyn yn parhau am amser maith.
"Rwy'n falch o weld bod cymaint o fusnesau yng Nghymru sy'n parhau i gydnabod y cyfleoedd sydd y tu hwnt i'n ffin. Bydd y daith fasnach hon yn rhoi cyfle unigryw i ddirprwyaeth Cymru arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau arloesol, ochr yn ochr â'n harbenigedd academaidd a'n diwylliant ymchwil bywiog sydd wedi gwneud gwyddorau bywyd yn faes twf mor allweddol yng Nghymru."