Disgwyl i Lywodraeth Cymru guro’r targed o greu 100,000 o brentisiaethau
Welsh Government target of creating 100,000 apprenticeships set to be exceeded
Mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd cywir i guro’r targed o ddarparu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates ar ddechrau’r Wythnos Prentisiaethau.
Ers cyflwyno’r targed, mae dros 74,000 o unigolion wedi dechrau ar brentisiaethau sy’n caniatáu iddynt ddysgu ac ennill cyflog yr un pryd, gan roi hwb i’w cyfleoedd gyrfa.
Mae Wythnos Prentisiaethau 2020 yn ddathliad wythnos o hyd o waith caled ac ymroddiad prentisiaid, yn ogystal â chefnogaeth ac ymrwymiad eu cyflogwyr. Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru i nodi’r achlysur.
Mae polisi Prentisiaethau a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod prentisiaethau yn diwallu’r anghenion ar gyfer economi ffyniannus yng Nghymru, fel y gall Cymru gystadlu ar lwyfan y byd â gweithlu hynod fedrus.
Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Gan siarad ar ddechrau’r Wythnos Prentisiaethau, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
“Rwy’ wedi cyfarfod prentisiaid o bob cwr o Gymru, ac mae’n wych gweld sut maen nhw wedi cydio yn y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, datblygu eu gwybodaeth a chodi eu hyder.
“Mae’n amlwg bod prentisiaethau yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru ac yn ysgogi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru ffyniannus.
“Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i weld ein gweithlu yn tyfu, ac mae’n buddsoddiad ni mewn prentisiaethau yn enghraifft ardderchog o hynny.
“Rwy’ am weld Cymru yn arwain y ffordd, fel esiampl ardderchog i wledydd ar draws y byd o’r ffordd y gall buddsoddi mewn prentisiaethau arwain at fanteision sylweddol.
“Mae ffigurau diweithdra Cymru yn is nag erioed, ac rydym yn disgwyl curo’r targed maniffesto o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y cynulliad hwn, felly mae lle gan Lywodraeth Cymru i ymfalchïo yn y camau ry’n ni’n eu cymryd i sbarduno’r economi.
“Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn gyfle gwych i ddathlu’r gwahaniaeth gwirioneddol mae prentisiaid a’u cyflogwyr yn ei wneud.
“Mae’n hymgyrch ‘dewis doeth’ hefyd yn chwarae rhan allweddol yn annog busnesau i recriwtio prentis a gwireddu’r manteision posib i’r gweithle.”