Disgyblion yn holi’r Prif Weinidog am ei gynlluniau ar gyfer y Nadolig
Pupils quiz First Minister about Christmas plans
Mewn cynhadledd arbennig i'r wasg ar gyfer y Nadolig, cafodd disgyblion ysgol o bob cwr o Gymru gyfle i holi'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Gofynnwyd cyfres o gwestiynau anodd yn ystod y sesiwn ar-lein, gan gynnwys, "Sut beth yw bod yn Brif Weinidog?" "Ai dyma'r swydd orau yng Nghymru?" "A beth yw traddodiadau Nadolig eich teulu?"
Datgelodd Mark Drakeford mai'r anrheg Nadolig orau a gafodd erioed oedd record finyl y mae'n dal i wrando arni, tua 50 mlynedd yn ddiweddarach.
Dywedodd hefyd wrth y plant ysgol ei fod yn gobeithio ei fod ar restr plant da Siôn Corn, gan eu hatgoffa mai'r ffordd orau o aros ar ochr iawn Siôn Corn oedd "cadw at y rheolau".
Pan ofynnwyd iddo ai ei swydd ef oedd yr un orau yng Nghymru, atebodd y Prif Weinidog: "Mae darnau o'r swydd sy'n well na swydd unrhyw un arall, ac mae'n siŵr bod rhai darnau yn anoddach.
"Mae'n swydd dwi'n lwcus iawn i'w chael."
Cymerodd disgyblion o bedair ysgol gynradd ran yn y gynhadledd i'r wasg ar-lein – Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon, Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ac Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd.
Dywedodd Meilir Thomas, Pennaeth Ysgol Glan Morfa,
"Fe wnaeth y plant fwynhau’r profiad o gymryd rhan yn y sesiwn. Roedden nhw'n meddwl ei bod hi'n anrhydedd cael y Prif Weinidog yn ateb eu cwestiynau."
Nodiadau i olygyddion
Mae dolen yma i fideo o'r sesiwn gyda'r Prif Weinidog: