English icon English

Diweddariad ar Bont Menai

Update on Menai Suspension Bridge

Rydym yn cydweithio gyda UK Highways A55 DBFO Ltd i ailagor yn rhannol Bont Menai i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn y dyddiau nesaf.

Disgwylir i'r ailagor rhannol hwn weithredu rhwng 07:00-19:00 o'r gloch a bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos.  Yn ystod yr oriau gweithredu, dim ond cerbydau hyd at 3 thunnell fydd yn gallu croesi, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif traffig oddi ar yr ynys ar waith yn y bore ac i mewn i’r ynys ar waith yn y prynhawn.

Bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi'r bont a defnyddio'r droedffordd i gerddwyr.

Bydd trefniadau mynediad brys ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia ar waith.

Mae trafodaethau'n parhau gyda UK Highways A55 DBFO Ltd a Heddlu Gogledd Cymru a bydd yr union amserlenni a'r camau gorfodi yn cael eu cadarnhau cyn gynted ag y cytunir ar gynllun yn llawn. 

Bydd gwaith yn digwydd ar yr un pryd i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol i'r bolltau. Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn.