English icon English

Diwrnod Amgueddfeydd Cymru – dathlu gartref yn 2020

Welsh Museums Day – a celebration at home for 2020

Cynhelir Diwrnod Amgueddfeydd Cymru bob blwyddyn ar 12 Mai gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ynghyd â’r Gymdeithas Amgueddfeydd. Eleni, fe ddathlwn yr amrywiaeth gyfoethog o amgueddfeydd ar draws y wlad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Drwy ddilyn #WelshMuseums  #Amgueddfeydd, bydd amgueddfeydd ar draws y wlad yn rhannu eu straeon, casgliadau, ac yn dangos eu gwaith arloesol a’u heffaith gadarnhaol ar yr economi, dysgu, addysg a sgiliau, cydlyniant cymunedol, iechyd a llesiant.

Mae amgueddfeydd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau – ac maent hefyd wedi teimlo effaith uniongyrchol y pandemig a’r cyfyngiadau sydd yn eu lle. Er mwyn cefnogi’r sector yn ystod yr amser anodd hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Cronfa Cadernid Covid-19, sy’n cael ei gweinyddu drwy Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru. Mae wedi dyfarnu £100,451 i 17 o sefydliadau hyd yma. Mae aelodau’r Ffederasiwn hefyd wedi asesu cynllun grant y Llywodraeth sy’n seiliedig ar werthoedd ardrethol ardrethi busnes sydd wedi arwain at £360,000 o gyllid. Mae ceisiadau hefyd yn cael eu prosesu ar gyfer Cronfa Cadernid Diwylliannol y Llywodraeth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud popeth posibl i gefnogi’r cadernid, y creadigrwydd a’r ysbryd o bartneriaeth sy’n cael eu dangos gan y sector.

“Mae Diwrnod Amgueddfeydd Cymru yn gyfle gwych i ddangos y cadernid a’r creadigrwydd hyn – a byddwn ni’n eu mwynhau eleni yn niogelwch ein cartrefi ein hunain.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio fel partneriaid i alluogi’r sector i wrthsefyll yn erbyn y cyfnod anodd hwn ac i ffynnu, gobeithio, unwaith eto – a dod â chymunedau at ei gilydd unwaith eto pan fo’r argyfwng drosodd.”

Dywedodd Victoria Rogers, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru: “Mae amgueddfeydd Cymru yn wir yn rhwydwaith o adnoddau cymunedol ac mae diwrnod #AmgueddfeyddCymru yn gyfle i ddangos cymaint yw eu gwerth i Gymru a pha mor hanfodol ydynt i’w cymunedau. Bydd amgueddfeydd ar draws y wlad, yn lleol ac yn genedlaethol, yn defnyddio Twitter i ddangos enghreifftiau pwerus ac arloesol o’r effeithiau cadarnhaol y maent yn eu cael gyda’u cymunedau ac ar gyfer y cymunedau hynny – cyn ac yn ystod pandemig y Coronafeirws.

“Mae amgueddfeydd yn ein hysbrydoli i ddysgu o’r gorffennol, i ddeall ein presennol ac i bennu ein dyfodol. Drwy adnoddau addysgu yn y cartref, teithiau o amgylch casgliadau ar y cyfryngau cymdeithasol, darlithoedd sy’n cael eu ffrydio a phodlediadau, mae amgueddfeydd Cymru wedi bod yn cefnogi eu cymunedau yn ystod yr adeg hon pan fo symudiadau wedi’u cyfyngu. A byddant yn hanfodol o ran helpu Cymru i ddeall y pandemig a’i waddol hefyd – mae sawl amgueddfa leol ar draws y wlad, yn ogystal ag Amgueddfa Cymru, eisoes yn gweithio gyda chymunedau i gofnodi eu profiadau a’r hyn maent yn ei wneud, yn ei deimlo ac yn hiraethu amdano yn ystod argyfwng Covid-19.”