English icon English
21.08.25 GCSE Results Cab Sec Ed  8-3

Diwrnod canlyniadau TGAU 2025: Yr Ysgrifennydd Addysg yn llongyfarch dysgwyr Cymru

GCSE results day 2025: Education Secretary gives her congratulations to learners

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, â myfyrwyr yn Ysgol y Strade yn Llanelli a oedd yn casglu eu canlyniadau, a dywedodd:

"Llongyfarchiadau a da iawn chi bawb sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw.

Mae heddiw yn nodi dechrau cyfnod cyffrous i chi. Cyfnod o ddechrau cynllunio eich camau nesaf.

Dw i'n gobeithio eich bod wedi cael y graddau roeddech chi eu heisiau, a ph'un a ydych chi am benderfynu parhau ag addysg, dewis hyfforddiant galwedigaethol neu fynd i mewn i gyflogaeth, mae yna lawer o opsiynau ar gael. I'r rhai sy'n ceisio arweiniad o ran eu camau nesaf, mae cymorth yn dal i fod ar gael drwy eich ysgol neu'ch coleg a'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n darparu ystod o opsiynau.

"Rydyn ni wedi gweld rhai canlyniadau cryf yn ein graddau uchaf ac ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Arwydd cadarnhaol ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyrhaeddiad yn ein hysgolion.

"Dw i hefyd eisiau talu teyrnged i'n hathrawon a'n gweithlu addysg y mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi helpu ein dysgwyr i ffynnu."

Nodiadau i olygyddion

Notes

Release will be re-issued late morning on 21st August 2025