Diwrnod Chwarae Cenedlaethol: Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd mannau chwarae o safon ym mywydau plant
National Play Day: Cabinet Secretary recognises the importance of quality play spaces in children's lives
Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, ac yn tynnu sylw at werth mannau chwarae hygyrch a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc.
Thema eleni yw 'mannau chwarae', ac ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ag ardal Pentref Plant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Yn ystod ei hymweliad, gwelodd Ysgrifennydd y Cabinet drosti ei hun y gweithgareddau a'r profiadau sydd ar gael i blant yn yr Eisteddfod, gan gynnwys y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau creadigol a pherfformiadau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad, lles a hapusrwydd plant. Roedd ymweld ag ardal Pentref Plant yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i weld sut y gall chwarae a diwylliant ddod at ei gilydd i greu profiadau ystyrlon i blant.
"Ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol y flwyddyn hon, mae'n bwysig cydnabod y rôl hanfodol sydd gan fannau chwarae o safon yn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i wella meysydd chwarae oherwydd ein bod wedi ymrwymo i sicrhau, waeth beth fo'u cefndir, fod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at gyfleusterau chwarae rhagorol."
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae'n dda clywed am y gweithgareddau chwarae gwych sy'n digwydd ledled Cymru heddiw i ddathlu Diwrnod Chwarae'r DU.
"Y thema eleni yw 'mannau chwarae', ac rwy'n falch iawn ein bod wedi buddsoddi £5m y flwyddyn ariannol hon i wella ansawdd mannau chwarae a meysydd chwarae ledled Cymru.
"Mae gan blant hawl i chwarae – ac mae chwarae nid yn unig yn hwyl ond hefyd yn bwerus, ac yn cyfrannu at iechyd, hapusrwydd a datblygiad plant. Rydyn ni eisiau Cymru lle mae gan bob plentyn ddigon o gyfleoedd cyfoethog i chwarae."
DIWEDD