English icon English
Supporting-image-2-square-WELSH

Diwrnod Cyfrifiad 2021 yn nesáu

Census 2021 is coming

Wrth i ddiwrnod y Cyfrifiad nesáu, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn annog pobl ar draws Cymru i lenwi’r arolwg a helpu i chwarae eu rhan yn nyfodol Cymru. 

Mae’r Cyfrifiad yn rhoi’r cipolwg cywiraf ar y gymdeithas yr ydym yn byw ynddi ac yn helpu i lywio penderfyniadau ar sut yr ydym yn cynllunio ac yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol.

Yn ogystal â phenderfynu ar beth y bydd arian yn cael ei wario, fel ffyrdd, ysgolion neu ysbytai, mae’r Cyfrifiad hefyd yn rhoi gwybodaeth hanfodol i elusennau a sefydliadau gwirfoddol i’w helpu i ganfod yn lle y mae mwyaf o angen eu cymorth.

Cyfrifiad 2021 yw’r cyfrifiad cyntaf i fod yn ‘ddigidol yn gyntaf’ a dylid ei lenwi yn Gymraeg neu yn Saesneg ar ddiwrnod y Cyfrifiad ddydd Sul 21 Mawrth, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae’r Cyfrifiad yn rhoi gwybodaeth amhrisiadwy o safon inni sy’n llywio ein penderfyniadau yng Nghymru, ac sydd hefyd yn ein helpu ni i ddeall bywydau a llesiant ein pobl, gan gynorthwyo gyda’n gwaith o greu Cymru fwy cyfartal.

 “Bydd Cyfrifiad 2021 yn gyfrifiad ‘digidol yn gyntaf’. Golyga hyn y bydd pobl yn cael eu hannog i ymateb ar-lein os yw’n bosibl, ar ffôn symudol, ar liniadur, ar gyfrifiadur neu ar lechen. Caiff pobl lenwi copi papur os yw’n well ganddynt wneud hynny.

“Rydym wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod Cyfrifiad 2021 mor gynhwysol â phosibl ar gyfer pawb yng Nghymru a hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg, dweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth.”