Cytundeb Cydweithio gael ei lofnodi
Co-operation Agreement signed
Heddiw, mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru wedi llofnodi’r Cytundeb Cydweithio, gan nodi dechrau partneriaeth dair blynedd.
Mae’r Cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant; creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a gweithredu ar unwaith ac yn radical i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.
Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu polisïau ar sail y Cytundeb Cydweithio ac i gadw trosolwg ar y cyd o’r gwaith o’u cyflawni.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Dros y tair blynedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn mynd ati ar y cyd i ddatblygu a chyflawni’r polisïau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio hwn.
“Mae’n gytundeb pwrpasol i gyflawni dros Gymru ond mae hefyd yn adlewyrchu sut mae gwleidyddiaeth Cymru yn gweithio – drwy ganfod tir cyffredin a rhannu syniadau da.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ar y rhaglen uchelgeisiol hon.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:
“Mae heddiw’n nodi dechrau ffordd newydd o wleidydda.
“Wrth i Gymru wynebu heriau niferus yn sgil Brexit, yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig, nid yw cydweithio erioed wedi bod mor hanfodol i’n democratiaeth.
“Bydd y polisïau radical a phellgyrhaeddol sydd yn y Cytundeb Cydweithio – boed yn brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd neu’n ofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed – yn newid bywydau miloedd o deuluoedd yng Nghymru er gwell.
“Rwy’n falch o lofnodi’r Cytundeb hwn gyda’r Prif Weinidog ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru.”
Nodiadau i olygyddion
Daw’r Cytundeb Cydweithio i rym heddiw (1 Rhagfyr 2021).
Cyhoeddir pob dogfen yn ymwneud â’r Cytundeb Cydweithio ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/y-cytundeb-cydweithio-2021 a gwefan Plaid Cymru.