Diwygio cyllid llywodraeth leol – Cymru yn cymryd camau breision
Wales is making great strides in reforming local government finance
Mae angen cefnogi a grymuso llywodraeth leol ledled Cymru fel y gall ein cynghorau lleol a’n heddluoedd barhau i ddarparu gwasanaethau lleol a chenedlaethol i’w cymunedau. Dyna neges y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, wrth i grynodeb o ganfyddiadau ynglŷn â diwygio cyllid llywodraeth leol yng Nghymru gael ei gyhoeddi heddiw.
Mae’r papur yn dwyn ynghyd ymchwil arbenigol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf i ddeall yr opsiynau i wneud trethi lleol yn fwy graddoledig, a pharhau ar yr un pryd i gynnal refeniw hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol.
Yn ogystal ag ystyried syniadau mwy radical, megis treth gwerth tir a threth incwm leol, mae’r papur hefyd yn nodi opsiynau i wneud gwelliannau sylweddol i’r systemau presennol, gan ddarparu sylfaen gadarn i lywio cynigion dros dymor y Senedd nesaf.
Gan gydnabod y dylid ystyried diwygiadau o’r fath yn ofalus, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau pwysig i ddatblygu system treth gyngor decach yng Nghymru. Gan weithio’n agos gyda chynghorau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyflwynwyd deddfwriaeth newydd yn 2019 i gael gwared ar y gosb o ddedfryd o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor ac mae system rheoli dyledion sy’n canolbwyntio’n fwy ar y dinesydd wedi’i datblygu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gyda MoneySavingExpert.com i wella mynediad at ostyngiadau ar gyfer pobl â nam meddyliol difrifol ac wedi annog aelwydydd incwm isel i fanteisio ar ei Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan leddfu rhai o effeithiau Credyd Cynhwysol. Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal hefyd wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor.
Mae’r papur hefyd yn ystyried y camau sydd wedi’u cymryd i gefnogi busnesau a thalwyr ardrethi eraill, gan gynnwys darparu rhyddhad ardrethi sylweddol wedi’i dargedau ar gyfer busnesau bach, y stryd fawr, lletygarwch a hamdden, a lleoliadau gofal plant. Yn sgil y pandemig, mae penderfyniadau hefyd wedi’u gwneud i rewi cynnydd mewn ardrethi annomestig y flwyddyn nesaf er mwyn lleddfu’r pwysau ar fusnesau sydd eisoes yn ei chael yn anodd.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Mae’r papur yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar ddyfodol trethi lleol, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig, gan ystyried sawl astudiaeth ymchwil allweddol sydd wedi’u cynnal yn ystod y tymor hwn. Mae’n darparu sylfaen gadarn i lywio cynigion dros dymor y Senedd nesaf.
“Mae’n glir y byddai graddfa’r gwaith i ddiwygio’r system yn radical yn cymryd amser a rheolaeth ofalus er mwyn sicrhau bod llywodraeth leol yn parhau i gynnal ffrydiau refeniw hanfodol bwysig.
“Ni waeth pa ddull sy’n cael ei fabwysiadu yn y dyfodol, un peth sy’n glir yw bod rhaid inni ddal i gefnogi a galluogi llywodraeth leol i barhau i ddarparu gwasanaethau lleol gwell i bawb: er mwyn darparu’r sylfaen orau ar ddechrau bywyd, helpu’r rhai sydd angen cymorth, a threchu tlodi drwy greu economi ffyniannus a theg sydd o fudd i bawb.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau CLlLC:
“Mae’r Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes yn codi dros £2.5bn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus lleol, gan ddarparu ffrwd gyllido hanfodol ar gyfer y pethau y mae ein cymunedau yn dibynnu arnynt. Mae’r Gweinidog Cyllid yn gywir i ddweud y bydd unrhyw broses ddiwygio yn cymryd amser ac y dylai fod yn deg i’r rhai sy’n talu trethi hefyd.”