Dosbarthiadau coginio yn helpu i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol
Cookery classes help tackle alcohol misuse
Mae pobl â phroblemau alcohol hirdymor yn dysgu sut i baratoi prydau o fwyd gyda'i gilydd, a hynny yn sgil prosiect newydd sy'n mynd i'r afael â maeth gwael ac ynysigrwydd cymdeithasol, sy'n aml yn gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol.
Mae'r cynllun Llond Plât yn cael ei ddarparu yn Abertawe a Chaerdydd, gan Barod ac Ymddiriedolaeth Nelson. Sefydliadau yw'r rhain sy'n helpu ag adferiad hirdymor pobl sydd wedi'i heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau ac sy'n barod i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau.
Yn ystod ymweliad â phrosiect yn Abertawe, cafodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, y cyfle i siarad ag unigolion sy'n mynychu dosbarthiadau coginio. Dysgodd hi sut mae'r prosiect yn eu helpu nhw i adennill rheolaeth ar eu bywydau ac ail-greu cysylltiadau cymdeithasol, fel rhan o'u hadferiad o gamddefnyddio alcohol.
Dywedodd:
"Mae Llond Plât yn un o sawl cynllun sy'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol. Nid dim ond alcohol mae'r prosiect yn mynd i'r afael ag ef. Mae'n cynnig model ar gyfer gwasanaethau sy'n helpu pobl sy'n wynebu amrywiaeth o heriau a rhwystrau yn eu bywydau.
"Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, fel dosbarthiadau coginio, wneud gwahaniaeth enfawr i adferiad pobl."
Dywedodd Caroline Phipps, Prif Weithredwr Barod:
"Mae wedi bod yn fraint croesawu'r Gweinidog heddiw i rannu ein hymchwil i'r berthynas rhwng bwyd a'r rhai sy'n cael cymorth yng ngwasanaeth cyffuriau ac alcohol Barod. Hoffen ni ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwil am rannu eu profiadau mor agored.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni sicrhau bod pobl ar eu taith adfer o broblemau alcohol a chyffuriau yn cael y cymorth holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd ei angen arnyn nhw i ailadeiladu eu hiechyd, eu llesiant a'u dyfodol."
Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Alcohol Change UK sydd wedi cael cyllid gwerth dros £7,000 gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r prosiect, yn ogystal â'r grant blynyddol gwerth £150,000.
Mae Llond Plât yn rhan o raglen adfer ehangach Barod, sy'n rhoi cymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i'r rhai sy'n agored i niwed ac wedi'u hymyleiddio o ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol eu hunain, neu ddefnydd rhywun arall ohonyn nhw. Y nod yw gwella eu lles corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.
Dywedodd Andrew Misell, Cyfarwyddwr Cymru yn Alcohol Change UK:
"Rydyn ni'n gwybod nad yw llawer o bobl sy'n yfed alcohol yn ormodol dros gyfnod hir yn bwyta digon, gan fod alcohol yn gwthio pethau eraill yn eu bywydau o'r neilltu. Mae gwaith gwych yn digwydd yn Barod yn Abertawe ac yn Ymddiriedolaeth Nelson yng Nghaerdydd i helpu pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau i fwyta bwyd gwell, a mwy ohono, a gwneud ffrindiau newydd wrth rannu prydau bwyd.
"Gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Alcohol Change UK wedi gallu dod o hyd i'r cynhwysion allweddol i gynnal sesiynau coginio a bwyta llwyddiannus.
"Rydyn ni wedi dod â'r holl wersi hynny at ei gilydd yn y Llawlyfr Llond Plât, sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg, ar wefan Alcohol Change UK, i unrhyw un ei ddefnyddio. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn annog rhagor o wasanaethau lleol i ddeall y rôl fawr y gall bwyd ei chwarae yn rhan o daith pobl tuag at adfer."
Yn ogystal â'r dosbarthiadau coginio yn Abertawe, llwyddodd y cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r cynllun yng Nghaerdydd, sef y cynllun yng nghanolfan Ymddiriedolaeth Nelson ar gyfer menywod agored i niwed, gan ddyblu maint y prosiect i bob pwrpas.