English icon English

Dr Frank Atherton yn cadarnhau bod trydydd person yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19.

Dr Frank Atherton confirms a third person in Wales has died after contracting COVID-19.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

“Mae’n ddrwg iawn gennyf gadarnhau’r newyddion trist bod trydydd claf yng Nghymru a oedd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 wedi marw. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r unigolyn a gofynnaf i’w dymuniad nhw am breifatrwydd gael ei barchu.

“Roedd gan y claf, a oedd yn 71 oed, gyflyrau iechyd eisoes ac roedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”