Drama HBO House of the Dragon yn hedfan i Ogledd Cymru am y trydydd tymor
HBO drama House of the Dragon flies into North Wales for third season
Cafodd y cynhyrchiad llwyddiannus ei ffilmio ar leoliad ledled Gogledd Cymru yn ystod Haf 2025; Cyllid Cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol yn sicrhau lleoliadau hyfforddeion a chyfleoedd gwaith yn y rhanbarth.
Efallai y bydd gwylwyr brŵd House of the Dragon, unwaith eto, yn adnabod lleoliadau allweddol yng Nghymru pan fydd y gyfres newydd yn cyrraedd y sgriniau yn ddiweddarach eleni, ar ôl i HBO dreulio Mehefin a Gorffennaf yn ffilmio mewn sawl lleoliad ar draws Ynys Môn, Conwy a Gwynedd.
Ymhlith y lleoliadau ffilmio roedd Pier Biwmares ar Ynys Môn, Craig yr Undeb yng Ngwynedd a Ffynnon Llugwy, llyn trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Derbyniodd ail a thrydydd tymor y ddrama Gyllid Cynhyrchu gan Cymru Greadigol, gyda £674,600 wedi'i ddarparu ar gyfer tymor tri, a disgwylir i'r buddsoddiad gynhyrchu £6.7 miliwn i economi Cymru.
Y tu ôl i'r camera, cynigiwyd lleoliadau â thâl i 12 o hyfforddeion ar lefel mynediad, gan weithio mewn rolau fel Gwisgoedd, Addurno Set a Phropiau, Camera, a Sain. Rhoddwyd rolau uwchsgilio i bump arall, a rhoddodd cynllun cysgodi First Break dan arweiniad Sgil Cymru a Crew HQ gyfle i chwech o bobl weithio ar draws gwahanol adrannau.
Ochr yn ochr â'r hyfforddiant, cynigiodd y tîm ar lawr gwlad wers Gymraeg i holl aelodau'r criw ddysgu ymadroddion sylfaenol a chynhaliodd bwt-camp Swyddogion Lleoliadau lle cofrestrodd pobl leol ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Creadigol:
"Mae'r cynhyrchiad hwn yn dod â harddwch Gogledd Cymru i sgriniau ledled y byd ac yn cryfhau enw da Cymru ymhellach fel cyrchfan ffilmio flaenllaw.
"Mae ein buddsoddiad yn cefnogi swyddi, sgiliau a hyfforddiant lleol wrth ddarparu manteision economaidd sylweddol i'r rhanbarth. Rydym yn ddiolchgar i HBO am y cyfleoedd a grëwyd i bobl yng Ngogledd Cymru, yn enwedig y rhai sy'n dechrau gyrfaoedd ym maes teledu a ffilm."
Dywedodd Kevin De La Noy, Cynhyrchydd Gweithredol House of the Dragon:
"Roedd cast a chriw House of the Dragon yn falch iawn o ddychwelyd i Gymru, i dirwedd a lleoliad sy'n ychwanegu cymaint o bŵer gweledol a dimensiwn bywiog i'r straeon."
Cast Tymor 3 sy'n dychwelyd : Matt Smith, Emma D'Arcy, Olivia Cooke, Steve Toussaint, Rhys Ifans, Fabien Frankel, Ewan Mitchell, Tom Glynn-Carney, Sonoya Mizuno, Harry Collett, Bethany Antonia, Phoebe Campbell, Phia Saban, Jefferson Hall, Matthew Needham, Tom Bennett, Kieran Bew, Kurt Egyiawan, Freddie Fox, Clinton Liberty, Gayle Rankin, ac Abubakar Salim.
Cast newydd Tymor 3: Tommy Flanagan fel yr Arglwydd Roderick Dustin a Dan Fogler fel Ser Torrhen Manderly. Mae cast tymor tri newydd a gyhoeddwyd yn flaenorol yn cynnwys James Norton fel Ormund Hightower.
Cyfarwyddwyr Tymor 3: Clare Kilner, Nina Lopez-Corrado, Andrij Parekh, a Loni Peristere.
Credydau Tymor 3: Cyd-Grëwr / Rhedwr Sioe / Cynhyrchydd Gweithredol, Ryan Condal; Cyd-Crëwr/Cynhyrchydd Gweithredol, George R.R. Martin; Cynhyrchwyr Gweithredol Sara Hess, Melissa Bernstein, Kevin de la Noy, Vince Gerardis, David Hancock, Philippa Goslett. Yn seiliedig ar “Fire & Blood" George R.R.Martin.
Bydd tymor 3 House of the Dragon ar gael i'w wylio ar HBO Max yn y DU ac Iwerddon o fis Mehefin. Gwyliwch drelar tymor tri ar YouTube.
Nodiadau i olygyddion
Mae Cymru Greadigol yn asiantaeth datblygu economaidd sy'n gweithio i ysgogi twf a hyrwyddo llwyddiant ar draws diwydiannau creadigol ffyniannus Cymru. Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae cefnogi'r sector Sgrin (cynyrchiadau ffilm a theledu, gan gynnwys ôl-gynhyrchu a chynnwys animeiddiedig) yn rhan o'n gwaith.
Ers lansio yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi bod yn cefnogi busnesau annibynnol o Gymru i ddatblygu cynnwys o ansawdd uchel ac mae wedi denu buddsoddiad gan gwmnïau cynhyrchu a gwasanaethau ffrydio mwyaf nodedig y byd gan gynnwys HBO, Netflix ac Amazon, gan wneud Cymru yn gyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer ffilmio.
Mae'r sector sgrin yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae'n gyflogwr allweddol. Mae data'r ymchwil diweddaraf yn y diwydiant (2024*) yn nodi bod cynyrchiadau ffilm a theledu wedi cyflawni trosiant o £568m yn 2024 ac mae'n gartref i 695 o gwmnïau sy'n creu cyfleoedd llawrydd a chyfleoedd hyfforddeion sylweddol i'n gweithlu. Mae nifer y cwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru wedi cynyddu bron i 20% ers 2019, gan adlewyrchu twf parhaus ar draws y sector hwn. Mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi mewn 72 o brosiectau drwy Gyllid Cynhyrchu yn unig, gan gynhyrchu bron i hanner biliwn o bunnoedd mewn enillion economaidd i'r genedl, ac mae'r symiau hyn yn parhau i dyfu.
Yn ogystal â'r cymorth ariannol a chyngor pwrpasol yr ydym yn eu cynnig, mae gan Gymru leoliadau syfrdanol, amrywiol, yn ogystal â chyfleusterau stiwdio o'r radd flaenaf, gwasanaethau ôl-gynhyrchu a chriw talentog. Ymhlith y cynyrchiadau nodedig a wnaed yng Nghymru mae House of the Dragon (HBO), Industry (BBC|HBO), His Dark Materials (BBC|HBO), Mr Burton (Icon) a H is for Hawk (Lionsgate).
Rydym yn angerddol am sicrhau llwyddiant hirdymor y diwydiant Ffilm a Theledu, ac yn gweithio'n agos gyda chynyrchiadau i greu prentisiaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd uwchsgilio i bobl ar bob cam o'u gyrfaoedd, wrth hyrwyddo arferion gorau o ran llesiant, cynaliadwyedd a chynhwysiant. Mae gan y sector sgrin yng Nghymru gyfran uwch o bobl ag anableddau yn ei weithlu na chyfartaledd Cymru a'r DU.
I ddarganfod mwy am Gyllid Cynhyrchu a'n gwasanaeth Sgrin Cymru, ewch i cymrugreadigol.cymru.
Dilynwch ni ar Instagram a LinkedIn.
Gwyliwch ein ffilm arddangos yma.
*Ffynhonnell data: Ystadegau'r Economi a Marchnad Lafur Creadigol Cymru 2024