English icon English
dentist-2

Dros 100,000 o apwyntiadau deintyddol ychwanegol eleni – ond mae methu apwyntiadau yn parhau i gael effaith

Over 100,000 extra dental appointments this year – but missed appointments continue to bite

Mae nifer yr apwyntiadau deintyddol ychwanegol a gafodd eu darparu eleni wedi cyrraedd 109,000 yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Mae newidiadau Llywodraeth Cymru i gontractau deintyddiaeth y GIG, sy’n cael eu cynnig i bractisau deintyddol ers mis Ebrill diwethaf, yn cynnwys gofyniad i bractisau deintyddol y GIG weld cleifion newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd tua 112,000 o apwyntiadau cleifion newydd yn bosibl yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Fodd bynnag, mae Prif Swyddog Deintyddol Cymru wedi rhybuddio bod methu apwyntiadau yn effeithio ar y bobl sydd angen triniaeth ddeintyddol fwyaf. Mae Andrew Dickenson wedi gofyn i gleifion osgoi methu apwyntiadau lle bo modd neu roi gwybod i’w deintyddfa o flaen llaw pan nad ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol.

Yn ôl Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, collwyd 9.4% o’r holl apwyntiadau a oedd wedi’u trefnu gan y GIG y llynedd oherwydd nad oedd cleifion yn bresennol, sy’n cyfateb i 3.5 awr o amser clinigol bob wythnos ar gyfer pob practis.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydym am i bawb yng Nghymru allu cael mynediad at ofal deintyddol y GIG, os ydyn nhw am gael hynny. O eleni ymlaen, rydym yn darparu £2 filiwn ychwanegol y flwyddyn i helpu i wella mynediad at wasanaethau deintyddol ledled Cymru.

"Rwy’n falch ein bod eisoes wedi llwyddo i fynd heibio’r nod o 100,000 apwyntiad ychwanegol eleni, sy’n dangos bod ein diwygiadau, a wnaed mewn partneriaeth â’r diwydiant, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol clir i gleifion.”

Ychwanegodd Andrew Dickenson:

“Rydym wedi gwneud cynnydd mawr ers ein diwygiadau i gontractau deintyddol y GIG. Mae 78% o bractisau deintyddol bellach wedi cofrestru ar gyfer amrywiad y contract, sy’n dwyn ffrwyth o ran apwyntiadau newydd i gleifion.

“Ond mae methu apwyntiadau yn parhau i fod yn broblem go iawn, ac mae cyfanswm yr amser clinigol sy’n cael ei golli yn cyfateb i 20 deintydd llawn amser y flwyddyn.

“Mae’n ddealladwy bod pethau’n codi, sy’n golygu nad yw pobl yn gallu cadw apwyntiadau bob tro. Ond fy neges allweddol yw - “canslo, nid colli” apwyntiadau - cysylltwch â’ch deintyddfa cyn gynted ag y byddwch chi’n gwybod na allwch chi fynychu. Oherwydd hynny gall deintyddfeydd wneud amser i weld cleifion eraill, gan alluogi hyd yn oed mwy o bobl i gael mynediad cyflymach at driniaeth ddeintyddol.”