Dros £115m i wella trafnidiaeth leol ledled Cymru
More than £115m to improve local transport across Wales
Heddiw cyhoeddwyd cyllid i ddarparu systemau trafnidiaeth integredig modern, cynaliadwy ledled Cymru.
Mae'r £115.9m o gyllid wedi'i ddyfarnu i awdurdodau lleol, drwy Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru (2026-7), i'w gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio trafnidiaeth leol a helpu pobl i symud o gwmpas yn haws.
Bydd y cyllid yn helpu i greu strydoedd mwy cynhwysol i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwyno a beicio (£58.5m); gwella cyflwr ffyrdd lleol drwy fuddsoddi mewn cynlluniau priffyrdd (£24.1m); creu gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus (£20.9m); gwella diogelwch ar y ffyrdd (£7m) a gwneud gwelliannau seilwaith i bwyntiau gwefru cerbydau trydan (£3.9m).
Mae'r prosiectau a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn cynnwys:
- cynlluniau cerdded, olwyno a beicio, fel cynllun Bae Penrhyn gwerth £1.1m yng Nghonwy.
- £2.4m i gwblhau cynllun cerdded Stryd Fawr Aberhonddu i wella creu lleoedd a mynediad diogel at gyfleoedd i gerdded, olwyno a beicio.
- agor cyfnewidfa aml-ddull‑Hwlffordd yn Ne-orllewin Cymru
- gwerth £4,000,000 o welliannau i gyfnewidfa Caerffili i gefnogi gwell cysylltiadau aml-ddull yn ogystal â
- mynd i’r afael â blaenoriaethau a nodwyd drwy Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i gefnogi system drafnidiaeth fwy gwydn a chynaliadwy o amgylch coridor yr M4.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae darparu gwell trafnidiaeth a chysylltu cymunedau i bawb wrth wraidd y buddsoddiad hwn sydd werth £115 miliwn. Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i'r ysgol, gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, a hefyd adeiladu system drafnidiaeth mwy modern, cynaliadwy ac integredig ledled Cymru er budd cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae ein hymrwymiad i ddull un tîm yn seiliedig ar wybodaeth leol a'n hymddiriedaeth yn ein partneriaid; y CJCs, Awdurdodau Lleol, Trafnidiaeth Cymru, a rhanddeiliaid ehangach, er mwyn sicrhau bod yr arian hwn yn creu'r manteision mwyaf.
"Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau gwirioneddol i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, llwybrau gwell ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, neu gysylltiadau aml-ddull mwy dibynadwy."