English icon English
KW visit-2

Dull Cymru o ymdrin â chymwysterau yn 2021 yn cael ei gadarnhau gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams

Wales’ approach for qualifications in 2021 confirmed by Education Minister Kirsty Williams

Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cadarnhau heddiw (dydd Mawrth, 10 Tachwedd) sut y bydd Cymru yn mynd ati i roi cymwysterau yn 2021, ac na fydd arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer dysgwyr TGAU, UG na Safon Uwch.

Nododd y Gweinidog y canlynol:

  • Yn lle arholiadau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gydag ysgolion a cholegau i gynnal asesiadau dan reolaeth athrawon.
  • Dylai hyn gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a’u marcio yn allanol, ond eu cynnal yn y dosbarth dan oruchwyliaeth yr athrawon.
  • Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer canlyniadau gan ganolfannau, gyda dull cenedlaethol y cytunwyd arno i sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad ar ôl ystyried cyngor manwl gan Cymwysterau Cymru ar yr opsiynau oedd ar gael, yn ogystal â chanfyddiadau interim adolygiad annibynnol i broses arholiadau eleni.

Bu’r Gweinidog hefyd yn trafod opsiynau gyda nifer o bobl, gan gynnwys dysgwyr a’u teuluoedd, penaethiaid, arweinwyr colegau, Comisiynydd Plant Cymru a phrifysgolion ar draws y DU.

Wrth gadarnhau ei phenderfyniad polisi, dywedodd Kirsty Williams: “Roeddem yn canolbwyntio ar les y dysgwyr a sicrhau tegwch ar draws y system wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.

“Yn unol ag argymhellion Cymwysterau Cymru a’r Adolygiad Annibynnol, ni fydd arholiadau TGAU nac UG y flwyddyn nesaf. Ni fydd gofyn i fyfyrwyr Safon Uwch sefyll arholiadau chwaith.

“Rydyn ni’n dal i obeithio y bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella, ond y prif reswm dros fy mhenderfyniad yw sicrhau tegwch; bydd y cyfnod o amser y gall dysgwyr yn ei dreulio yn yr ysgol neu’r coleg yn amrywio’n fawr iawn ac, yn y sefyllfa hon, mae’n amhosibl gwarantu tegwch i bawb mewn arholiadau.

“Rydyn ni wedi ymgynghori â phrifysgolion ar draws y DU, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi arfer derbyn nifer o wahanol fathau o gymwysterau.

“Maen nhw’n disgwyl trefniadau cadarn a thryloyw, sy’n darparu tystiolaeth o wybodaeth a gallu’r dysgwyr.

“Mae’r dull gweithredu rydyn ni’n bwriadu ei ddilyn yn cynnig hynny, gan ei fod wedi’i lunio i roi gymaint o amser â phosibl i addysgu a dysgu.

“Bydd canslo’r arholiadau hefyd yn golygu bod amser ar gael i’r addysgu a dysgu barhau drwy gydol tymor yr haf er mwyn cynyddu gwybodaeth, gwella sgiliau a chodi hyder ein dysgwyr ar gyfer eu camau nesaf.”

Dywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag athrawon i ddatblygu asesiadau dan reolaeth athrawon, a ddylai gynnwys asesiadau a fydd yn cael eu gosod a’u marcio yn allanol, ond eu cynnal yn y dosbarth dan oruchwyliaeth yr athrawon.

Byddai hyblygrwydd i’r athrawon eu cynnal ar yr adeg fwyaf addas, yng nghyd-destun amserlenni’r canlyniadau.

Dywedodd y Gweinidog: “Bydd y dull gweithredu llawn yn cael ei lunio gan arweinwyr ysgolion a cholegau, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chyngor Cymwysterau Cymru a CBAC. 

“Fy mwriad yw sicrhau y bydd hyn yn sylfaen ar gyfer canlyniadau gan ganolfannau, gyda dull cenedlaethol y cytunwyd arno i sicrhau cysondeb ar draws Cymru a rhoi sicrwydd i golegau a phrifysgolion.

“Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn nhymor yr hydref er mwyn rhoi amser i’w roi ar waith ym mis Ionawr, ac rydym yn rhagweld na fydd yr asesiadau cyntaf yn cychwyn tan ail hanner tymor y gwanwyn.”

Dywedodd y Gweinidog unwaith eto bod pecyn cymorth gwerth £50 miliwn wedi ei roi yn ei le i helpu dysgwyr blynyddoedd arholiadau i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i symud ymlaen yn hyderus.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae’n parhau i fod yn flwyddyn hynod o heriol ac mae’r hyn rwy’ wedi’i gyhoeddi heddiw yn mynd i dynnu’r pwysau oddi ar y dysgwyr a darparu amserlen glir ar gyfer addysgu a dysgu. 

“Rwy’n troi yn awr at ein hysgolion, colegau, cyrff cymwysterau a’r sector addysg ehangach, gan ofyn iddyn nhw gydweithio drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein dysgwyr  a’u galluogi i symud ymlaen yn hyderus.”

Mae’r sefyllfa o ran Cymwysterau Galwedigaethol yn fwy cymhleth, a bydd angen gwaith ychwanegol ar hyn.

Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Cymwysterau Cymru wrth iddynt gydweithio’n agos gyda rheoleiddwyr eraill i sicrhau dull gweithredu ymarferol sy’n gweithio er budd dysgwyr ac yn darparu eglurder ynghylch y ffordd ymlaen.