
Dull partneriaeth yn sbarduno cynnydd ar raglen dileu TB Cymru
Partnership approach is driving progress for Wales’ TB eradication programme
Mae Cymru'n gwneud cynnydd yn ei Rhaglen Dileu TB drwy ddull partneriaeth cryfach sy'n gwneud newidiadau cadarnhaol ym mholisi'r llywodraeth i ffermwyr wrth fynd i'r afael â'r clefyd.
Cyn ei ddiweddariad i Aelodau'r Senedd y prynhawn yma, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Mae ein dull partneriaeth gyda'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) a Bwrdd y Rhaglen yn gwneud newidiadau gwirioneddol sy'n helpu i fynd i'r afael â'r clefyd ac yn cefnogi ffermwyr trwy gyfnodau anodd.
"Rydw i wedi gweld drosof fy hun y poen meddwl y mae TB yn ei achosi i deuluoedd a busnesau ffermio ac rwy'n awyddus i gymryd camau i fynd i'r afael ag ef."
Adolygu'r polisi lladd ar y fferm oedd blaenoriaeth gyntaf y Grŵp Cynghori Technegol (TAG).
Mae adborth ar y newid polisi wedi bod yn gadarnhaol gyda nifer o ffermwyr yn dewis oedi cyn lladd gwartheg cymwys.
Ers cyflwyno'r polisi newydd flwyddyn yn ôl, mae lladd ar y fferm wedi cael ei osgoi trwy gael gwared ar oddeutu chwarter yr anifeiliaid – 242, o 111 o fuchesi unigol – a fyddai wedi cael eu lladd ar y fferm yn flaenorol.
Bydd newidiadau pellach i’r polisi TB yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Yn dilyn cais gan y diwydiant a chyngor dilynol gan y TAG a Bwrdd y Rhaglen, bydd newid mewn polisïau Adweithyddion Amhendant (IR).
Aeth y Dirprwy Brif Weinidog ymlaen: "Gofynnodd diwydiant, ac rydym wedi gwrando. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg IR safonol hyn yn risg uwch na gwartheg eraill oherwydd bod cyfran fwy ohonynt yn mynd ymlaen i ddod yn adweithyddion TB yn ddiweddarach.
"Ar hyn o bryd mae hyn yn peryglu gwartheg IR safonol o'r fath gyda’r haint heb ei ganfod yn cael ei symud ac yn lledaenu TB i fuchesi eraill - pryder allweddol a godwyd gan y diwydiant.
"O dan drefniadau newydd, bydd y gwartheg hyn (IR safonol wedi’u datrys) yn cael eu cyfyngu i'w buchesi gyda symudiadau trwyddedig yn unig yn cael eu caniatâu yn uniongyrchol i'w lladd, neu i Uned Orffen Gymeradwy. Rwy'n rhagweld y bydd y newid polisi hwn yn dod i rym o'r Hydref hwn, ac rwy'n gobeithio y caiff ei groesawu."
Mae dull partneriaeth gref hefyd yn cryfhau y broses o reoli TB yn Sir Benfro lle mae milfeddygon a ffermwyr yn cael eu grymuso drwy ddarparu data ac addysg i helpu i reoli TB ar eu ffermydd.
Gan adeiladu ar yr egwyddorion a'r arferion gorau a sefydlwyd yn Sir Benfro, mae menter gyflenwol bellach yn cael ei lansio yn yr ardal sydd â llai o achosion o TB yng Ngogledd Cymru – gyda'r nod o gadw'r clefyd allan.
Mae aelodau newydd hefyd wedi ymuno â Bwrdd Rhaglen Dileu TB. Cynrychiolydd o'r Farming Community Network (FCN), gan greu cysylltiad gwerthfawr rhwng y rhaglen a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl. Hefyd, mae cynrychiolydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn ymuno â'r Bwrdd, gan gydnabod arwyddocâd TB gwartheg i newydd-ddyfodiaid i ffermio a chefnogi cynaliadwyedd a chynllunio olyniaeth.
Wrth fynd i'r afael â'r darlun presennol o TB yng Nghymru, dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine: "Mae TB yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd ffermio sy'n delio â'r clefyd yn eu buchesi ac rydym yn cydnabod bod amrywiaeth ranbarthol yn y darlun o’r clefyd ledled Cymru.
"Er ein bod yn gweld gostyngiadau hirdymor mewn achosion mewn buchesi TB newydd ar y cyfan, mae'r cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd yn ystod 2024 yn adlewyrchu defnydd strategol o'r prawf gwaed interferon gama sensitifrwydd uchel ochr yn ochr â phrofion safonol, i adnabod anifeiliaid heintiedig mewn buchesi wedi’u heintio â TB.
"Er bod hyn yn cynyddu nifer y gwartheg sy’n cael eu tynnu o’r fuches, y nod yw lleihau cyfraddau heintio ac atal achosion dro ar ôl tro. Mae ein nod yn parhau yn glir: mae canfod gwell nawr yn golygu llai o glefyd yn y dyfodol."
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Hoffwn ddiolch i aelodau Bwrdd y Rhaglen a TAG am eu gwaith caled a'u hymroddiad hyd yn hyn.
"Rwy'n hyderus bod gennym y set sgiliau a'r profiad cywir ymhlith y ddau grŵp i ddarparu'r cyngor gorau posibl i'r Llywodraeth ar TB mewn gwartheg sy'n ein galluogi i wneud pethau'n wahanol yng Nghymru.
"Gyda threfniadau llywodraethu bellach wedi'u cwblhau, rwy'n ymrwymedig i gyflymu camau i'n helpu i gyrraedd ein targed o Gymru heb TB erbyn 2041."