Dull Tîm Cymru o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Team Wales approach to tackle climate change.
Llywodraeth Cymru yn croesawu dull ‘tîm Cymru’ o weithredu ar draws y sector cyhoeddus er mwyn gwireddu yr uchelgais o fod yn economi carbon isel ac i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae newid hinsawdd yn un o’r problemau sy’n diffinio ein cyfnod, gyda Llywodraeth Cymru a dros hanner yr awdurdodau lleol yn datgan argyfwng hinsawdd hyd yma.
Cyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth) fydd yn bennaeth ar ‘tîm Cymru’; byddant yn cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol, GIG, yr Awdurdodau Tân ac Achub, cynghorau tref a chymuned, y sector gwirfoddol, a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd a Llywodraeth Cymru. Y Cyngor Partneriaeth yw dull statudol ffurfiol y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o gydweithredu ar y prif faterion i Gymru, gan gynnwys newid hinsawdd. Bydd y dull o weithio yn caniatáu i’r cyrff cyhoeddus hyn gydweithio i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau, datblygu dull o gyfathrebu cyson a lleihau dyblygu ar y llwybr tuag at fod yn sero-net. Mae adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru, gan gynnwys defnyddio ynni yn effeithiol a phrosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cael eu cefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Rhaglen Gyllido Cymru.
Yn dilyn datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn y Senedd ddoe, cyhoeddwyd mai y Cyngor Partneriaeth yn cydweithio i sefydlu Panel Strategaeth Datgarboneiddio sy’n cynnig arweinyddiaeth frwdfrydig a gweledigaeth yn ogystal â throsolwg strategol, arweinyddiaeth gydweithredol a sianeli cyfathrebu. Mae datganiad y Cyngor yn rhoi amlinelliad o’r rhaglen o gymorth ar y cyd, a chyfeiriad uchelgeisiol yr arweinyddiaeth i helpu i sicrhau sector cyhoeddus carbon sero net yng Nghymru erbyn 2030. Bydd y blaenoriaethau yn cynnwys; lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig ag adeiladau, trafnidiaeth, a nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu caffael, tra’n defnyddio ein tir i ddileu o leiaf y nwyon tŷ gwydr yr ydym yn eu creu o’r atmosffer. Mae gan bartneriaid swyddogaeth bwysig o gefnogi newidiadau ar draws yr economi ehangach, drwy gynllunio eu gwasanaethau, y gweithgarwch economaidd y maent yn ei hyrwyddo a’u swyddogaeth o fewn cynllunio a chreu lle.
Gallai gweithio tuag at ddatgarboneiddio helpu i gynnig atebion cynaliadwy hirdymor, yn enwedig yn ystod yr adferiad wedi Covid. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r agenda hon drwy gynnig cymorth technegol, masnachol ac ariannol i Gyrff Cyhoeddus weithredu, ac maent wedi datblygu Canllawiau Carbon Net Sero i ar gyfer cofnodi cyson, trylowy. Bydd y gwaith hwn yn cael ei atodi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fydd yn darparu arbenigedd a hyfforddiant, ac yn sicrhau bod arfer gorau yn cael ei rannu ledled Cymru.
Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wedi addunedu i sicrhau bod camau datgarboneiddio wedi’u cynnwys drwy:
- Deall eu hôl troed carbon, yn unol â’u canllawiau ar gyfer cofnodi allyriadau tŷ gwydr y sector cyhoeddus
- Cytuno i gyfres o ymrwymiadau/addunedau sero net ar gyfer COP26
- Monitro manwl a chofnodi ar eu hallyriadau carbon presennol ac yn y dyfodol.
- Sicrhau bod gan bob Awdurdod Lleol gynlluniau gweithredu sero net cadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, fel dogfennau byw, erbyn Mawrth 2021
- Gwaith gyda’r Panel Strategaeth Datgarboneiddio.
Meddai y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
“Mae arweinyddiaeth gref a chysylltiad gwleidyddol ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol yn allweddol i gyflawni ein targed o carbon sero net erbyn 2030. Mae’r argyfwng Covid-19 cyfredol wedi newid ein byd yn gyflym mewn ffyrdd na fyddem wedi gallu dychmygu, ac mae’n rhaid i ddatgarboneiddio a’r amgylchedd fod yn ganolog i gynlluniau adfer covid-19.
Yn ystod yr argyfwng bu gostyngiad o 17% mewn allyriadau CO2 ac fe wyddom fod ymddygiad newydd megis gweithio o gartref, mwy o ddefnydd o dechnoleg a darparu gwasanaethau yn ddigidol, ymhlith eriall, wedi helpu inni gyflawni hyn.
Er ein bod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar reoli ac adfer o’r argyfwng presennol, mae gennym gyfle i adeiladau ar y newidiadau hyn a chreu cymdeithas gynaliadwy allyriadau isel.”
Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros Drafnidiaeth, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd:
“Mae cydweithio ar bob lefel o lywodraeth ac ar draws y sector cyhoeddus yn hollbwysig i wireddu targed carbon sero-net uchelgeisiol y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer 2030. Dyna pam y mae dull ‘Tîm Cymru’ o weithredu a’r fframwaith gweithredu ar ddatgarboneiddio yn gamau pwysig, a byddant yn cynnig y sylfaen dystiolaeth a rhai o’r dulliau sydd eu hangen i gyrraedd sero-net.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu ar ddatgarboneiddio, ac mae’r awdurdodau lleol wedi bod yn flaenllaw yn buddsoddi ac arloesi ym maes ynni, trafnidiaeth, adeiladau a chaffael am sawl blwyddyn. Wrth inni edrych yn ofalus tuag at ddyfodol wedi Covid, mae cyfleoedd i wireddu rhai o’r manteision ar y cyd o fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd, megis gwell iechyd a lles, cysylltedd digidol gwell, tai ac ysgolion gwell, a llai o dlodi tanwydd.
“Bydd angen buddsoddi sylweddol mewn seilwaith dros y blynyddoedd nesaf i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Llywodraethau leol sydd yn y lle gorau i gyflawni o fewn nifer o’r meysydd hyn, ac mae ganddynt hanes cryf o wneud hynny. Mae CLlLC yn edrych ymlaen at weithio’n fwyfwy agos at Lywodraeth Cymru a phob rhanddeiliad i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac i gefnogi awdurdodau wrth iddynt barhau i ymateb i’r her o gyrraedd sero-net.”
DIWEDD