English icon English

Dweud eich dweud am Lwybrau Cerdded a Beicio lleol

Have your say about local walking and cycling routes

Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i huchelgais i wneud teithio llesol yn ddewis amgen realistig drwy ei gwneud yn haws i bobl ddweud wrth eu cynghorau lleol lle y mae angen gwella'r llwybrau presennol ac adeiladu llwybrau newydd.

Mae map rhyngweithiol i gasglu barn cymunedau am lwybrau cerdded a beicio lleol yn cael ei lansio heddiw mewn sawl ardal ledled Cymru. 

Mae'r wefan, a gynhelir gan Commonplace, yn gwahodd pobl i roi gwybod i'w cynghorau lleol lle yr hoffent weld gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio. Gallai hyn fod oherwydd bod llwybrau'n cael eu torri, yn teimlo'n anniogel neu hyd yn oed ddim yn bodoli lle mae eu hangen. Bydd gan bob ardal ei gwefan Commonplace ei hun y gall aelodau o'r cyhoedd ei defnyddio drwy dudalen genedlaethol ac anogir pobl i’w rhannu gyda'u ffrindiau, eu teuluoedd a'u cydweithwyr fel bod cymaint o bobl â phosibl yn cael dweud eu dweud.

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, am weld twf sylweddol yn nifer y bobl sy'n gwneud teithiau byr ar droed neu ar feic ac felly bod pobl sy'n byw yn yr ardal yn cymryd rhan lawn pan fydd Cynghorau'n datblygu mapiau rhwydwaith teithio llesol sy'n cynllunio ar gyfer lle y bydd gwelliannau mawr yn cael eu gwneud dros y 15 mlynedd nesaf.

Dywedodd:

"Rydym am fynd i’r afael â’r llawer o rwystrau sy’n wynebu pobl wrth iddynt ystyried cerdded neu feicio i gyflawni siwrneiau pob dydd. Rydym wedi buddsoddi mwy mewn gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sicrhau bod gennym seilwaith o ansawdd a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ond dim ond os yw’r dull newydd o deithio yn diwallu eu hanghenion yn wirioneddol y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at bobl yn dewis teithio’n wahanol.

Mae pandemig Covid-19 wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cerdded ac yn beicio fel eu dewis ddull o fynd o gwmpas, p'un ai i gyrraedd yr ysgol, y gwaith pan na allant weithio gartref, y siopau neu ar gyfer ymarfer corff a'r teithiau byrrach hynny lle nad oes angen defnyddio ceir preifat.

"Rydyn ni eisiau casglu gwybodaeth leol pobl tra mae'n dal yn ffres yn eu meddyliau. Ble aeth eu teithiau teithio llesol yn anodd? A oedd ardaloedd lle'r oeddent yn teimlo'n anniogel? A oes unrhyw fannau lle na allent barhau â'u teithiau? A oes teithiau yr hoffent gerdded a beicio ond nad ydynt yn teimlo'n ddiogel yn gwneud hynny?

"Yn anffodus, mae Covid-19 hefyd wedi effeithio ar y ffordd y gall Cynghorau ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb yn mynd yn groes i gyngor y Llywodraeth o gyfyngu ar nifer y bobl y gallwn gyfarfod â nhw dan do. Roeddem yn cydnabod yr angen i sicrhau bod offer ymgysylltu digidol o ansawdd uchel ar gael i awdurdodau lleol ac wedi gwneud y buddsoddiad hwn i sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yn cael chwarae teg o ran ymgynghori â'u cymunedau."

Mae saith awdurdod lleol yn defnyddio gwefan Commonplace yr hydref hwn gydag eraill i ddilyn dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol Dr Dafydd Trystan Davies:

"Rydyn ni eisiau gweld pobl yng Nghymru yn dewis cerdded neu feicio ar gyfer teithiau byrrach. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ddweud wrthym am yr hy sy’n eu hatal rhag teithio'n weithredol ar hyn o bryd ac awgrymu gwelliannau a llwybrau newydd i'w Cynghorau lleol.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn teithio llesol yn seiliedig ar anghenion cymunedau lleol. Bydd y wefan hon yn rhan bwysig o wella'r ddarpariaeth teithio llesol a fydd o fudd i'r amgylchedd, iechyd a'r economi i bawb. Rwy'n gwybod am y brwdfrydedd mewn ardaloedd lleol dros ddatblygiadau pellach ac rwy'n edrych ymlaen at weld pob Cyngor yn defnyddio'r wefan ac yn datblygu cynlluniau uchelgeisiol pellach yn ystod y 12 mis nesaf."