English icon English

Dweud eich dweud ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru

Have your say on the future of manufacturing in Wales

Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn lansio trafodaeth genedlaethol heddiw ar gynllun newydd i helpu i sicrhau dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru.

O’r coronafeirws i Brexit a datgarboneiddio – mae gweithgynhyrchu yn mynd drwy un o’r cyfnodau mwyaf dwys a heriol mewn hanes.

Y llynedd, yng Nghymru yn unig, roedd dros 150,000 o bobl wedi’u cyflogi yn y sector, ond mae cyfres o ffactorau allanol gan gynnwys y pandemig a cholli swyddi amlwg yn mynd i olygu gostyngiad yn y ffigur hwnnw dros y misoedd nesaf.

Bydd y Gweinidog yn lansio ymgynghoriad dros bedair wythnos wedi ei anelu at gefnogi a sicrhau bod y sector yn barod ar gyfer y dyfodol mewn Uwchgynhadledd Weithgynhyrchu o bell, ledled Cymru heddidw.

Bydd y cynllun, Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru – Fframwaith Gweithredu, yn cael ei ddatblygu i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur gydweithio i sicrhau dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Daw yr ymgynghoriad hwn wrth inni wynebu argyfwng economaidd na welsom ei debyg – un sy’n bygwth bodolaeth cwmnïau gweithgynhyrchu ledled y DU.

“Mae gan weithgynhyrchu hanes maith a balch yng Nghymru ac mae yn parhau i chwarae rhan hynod bwysig yn ein heconomi a bywoliaeth ein pobl a’n cymunedau.

“Mae sicrhau bod y sector yn barod at y dyfodol yn hollol hanfodol er mwyn adfer o’r heriau presennol ac wynebu y rhai a ddaw.

“Bydd y cynllun newydd yn hanfodol er mwyn rhoi ffocws i sicrhau dyfodol ein gallu i weithgynhyrchu a nodi’r camau sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cadarn, uwch.”

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dechrau gwaith ar gynllun newydd ar gyfer gweithgynhyrchu cyn y coronafeirws.

Cafwyd trafodaethau gyda cymdeithasau’r diwydiant a’r undebau llafur ar y camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cadarn â gwerth uchel.

Yr ymgynghoriad, fydd yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw, yw’r cam nesaf i ddatblygu’r cynllun a fydd ar agor tan 19 Hydref er mwyn i bobl rannu eu barn.

Ychwanegodd y Gweiniodg: “Mae’n rhaid inni newid ein cymuned weithgynhyrchu – gan gynnwys ei chadwyni cyflenwi – i un sy’n fwy o ran gweithgareddau ‘gwerth uchel’ ac sy’n cael effaith bositif ar gymunedau lleol.

“Mae angen inni hefyd weld gweithlu sydd â sgiliau cryf, modern sy’n gallu cyflawni’r cynnyrch a’r technolegau ar gyfer economi y dyfodol.

“Bydd cydweithio yn allweddol wrth gyflawni hyn a bydd y cynllun yn bwysig i ddangos sut y mae Llywodraeth Cymru, diwydiant, academia a’r Undebau Llafur yn cydweithio’n effeithiol er budd dyfodol y sector.

“Byddwn yn mynd ymlaen â’r gwaith hwn ar fyrder ac yn bwrpasol, ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i leisio eu barn yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn.”

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r cynllun terfynol cyn diwedd y flwyddyn.