Dychmygu potensial Cymru fel Cenedl Noddfa yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2020
Imagining the potential of Wales as a true Nation of Sanctuary during Refugees Week 2020
Mae’r Wythnos Ffoaduriaid yn ddathliad o bobl o bob cefndir, yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall gwahanol safbwyntiau ac i adeiladu cymunedau integredig sy’n croesawu pobl sy’n ceisio lloches yn y DU.
Thema 2020 yw ‘Dychmygu potensial Cymru fel gwir Genedl Noddfa’.
Yn aml bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd i Gymru yn dilyn profiadau trawmatig yn eu mamwledydd ac ar eu taith i’r DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael cymorth i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i’r gymdeithas yng Nghymru.
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y polisi lloches, gan gynnwys penderfyniadau ar geisiadau lloches, darparu cymorth a llety i geiswyr lloches, a chynnal cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid. Mae hynny’n golygu nad oes modd datrys nifer o’r heriau sy’n wynebu’r cymunedau hyn yn llawn heb newidiadau polisi gan Lywodraeth y DU.
Llywodraeth y DU sydd hefyd yn penderfynu faint o geiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod yr unigolion hynny yn cael y cyfle gorau i integreiddio ac ailadeiladu eu bywydau yn ein cymunedau.
Mae’r cynllun ‘Cenedl Noddfa’ yn amlinellu’r gwaith amrywiol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni ar draws Cymru i sicrhau bod anghydraddoldebau y mae’r cymunedau hyn yn eu dioddef yn gostwng, bod y mynediad at gyfleoedd yn cynyddu, a bod y berthynas rhwng eu cymunedau a’r gymdeithas ehangach yn gwella.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Mae ffoaduriaid yn bobl gyffredin, fel ni. Ond maen nhw wedi colli popeth. Maen nhw wedi gorfod ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn eu gwledydd eu hunain ac, yn union fel ni, maen nhw am fyw bywyd urddasol, rhydd a diogel.
“Cymru yw eu cartref bellach. Maen nhw’n cyfrannu at eu cymunedau, ac yn ailgodi eu bywydau yma. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eu sgiliau, eu hysbryd o fenter a chael rhannu eu diwylliant, ac rydyn ni’n gyfoethocach o’r herwydd.”
Dywedodd Homa, ffoadur o Iran:
“Rwy’ am ddiolch i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru am fy helpu i. Rwy’n gallu bod yn dawel fy meddwl yma. Mae byw yng Nghymru wedi fy helpu i adennill yr hunan hyder a gollais yn fy ngwlad. Yma, mae pobl yn fy annog i – maen nhw’n fy ngwneud i’n gryfach. Rwy’n credu bod modd i fi wneud rhywbeth dros y wlad hon, dros y llywodraeth a’r bobl garedig. Rydych chi’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n perthyn, mai dyma fy nghartref.”
Aeth Jane Hutt yn ei blaen i ddweud:
“Mae Llywodraeth Cymru yma i sefyll wrth eich ochr, i weithio gyda chi, ac i ddysgu oddi wrthoch chi. Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i sicrhau fod Cymru’n wir Genedl Noddfa, lle gall pobl o bob hil, ffydd a lliw gael eu gwerthfawrogi am eu cymeriad a’u gweithredoedd.
“Rwy’ am ddweud wrth bob ffoadur a cheisiwr lloches sy’n byw yng Nghymru – rydyn ni’n eich clywed chi, mae croeso yma i chi, ac mae’n fraint i ni eich cael chi yma.”